Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ionawr 12, 2012

O’r Ardd: ganol Gaeaf

Dipyn bach o haul yn rhyfeddol o gryf: yn gorfodi rhywun (fi) i godi a mynd mâs i’r ardd a gwneud tipyn o waith clirio. Y phormiwms oedd yn ei chael hi gyntaf; mae’r dail mawr trwchus yn gwiwo ac yn marw ar ôl misoedd, fesul un. Maen nhw’n rhy gryf o lawer i gyllell, felly rhaid tynnu pob un yn unigol. Ac nid dim ond un cylch o ddail sydd, ond sawl un, fel bod rthai’n marw yng nghanol y planhigyn. Tric bach yr wyf i wedi ei ddysgu ar ôl blynyddoedd o wneud hyn: gyda’r rhai sydd ar y gwaelod, ar yr odre, gwell tynnu nhw yn y cyfeiriad y maen nhw’n tyfu. Ond gyda’r rhai canolog, sefyll mor agos ag wyt ti’n gallu a thynnu tuag at lan pia hi.

trin gwallt y phormiwm

Ac ar ôl awr neu ddwy o geisio ac o gyfathrebu gyda thechnegwyr, dyma lun y phormiwm. Dwi ddim yn siŵr beth sy’n digwydd gyda fi llun o hyn, ond mae fel petai’r Mac newydd ond yn genau llew, ac yn gorfod dysgu pethau. I ddechrau, roedd yn gwrthod yn deg â lanlwytho lluniau: yn awr, yn eu gwneud nhw yn union fel hen law.   Ac i ddathlu, dyma lun arall o’r ardd: mae’r goeden rhosyn yma wedi bod yn blodeuo ers mis Gorffennaf yn ddibaid.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: