Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ionawr 13, 2012

Pigion: Pysgod a Phethau Eraill

Ar ôl prynhawn caled yn yr ardd eto braf cael eisedd i lawr gyda phaned a darllen y newyddion lleol. Dyma’r pigion wnaeth fy nharo.

Fe gyhoeddwyd eisoes bod pysgotwyr cychod yr arfordir wedi cael blwyddyn dda llynedd; ond ddoe fe gafodd cyfrinfa Llanes diwrnod record, gan ddala 4000k o wahanol fathau o bysgod. Chwyrnwyr ysgithrog (Aspitriglia cuculus) oedd y rhan fwyaf o ddigon: pysgodyn sydd ddim i’w weld yn aml yn y marchnadoedd fan hyn. Roedd cychod Llanes wedi dal llawer y diwrnod cynt hefyd – efallai eu bod nhw’n pasio trwodd. I’r rhwydi  a’r leiniau hefyd daeth lledod, maelgwn, morgathod a mingrynion, a hyd yn oed cegddu oedd yn pwyso 7k.

Mae gŵr sy’n cynhyrchu caws a menyn mewn pentref cyfagos yn wynebu 3 blynedd o garchar ar ôl ei gael yn euog o lygru’r amgylchedd drwy arllwys biswail gwartheg i lyn. Roedd e wedi bod yn gwneud hyn am 11 blynedd. Mae’n arbennig o beryglus oherwydd natur y garreg galch, sy’n llawn ogofau a thwneli fel bod y llygredd yn cael ei ledaenu.

Mae cyngor bach mynyddig Cabrales o fewn dim i fynd yn fethdalwr. 2,200 o drigolion gyda dyled o €2.7m. Dros €1000 yr un. Mae’r swm wedi bod yn tyfu ers naw-degau’r ganrif ddiwethaf, gyda phleidiau o’r dde a’r chwith wrth y llyw. Ond yn awr dywed yr arweinydd (a fu hefyd yn arweinydd ddeng mlynedd yn ôl) na fedran nhw dalu’r gweithwyr.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: