Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ionawr 14, 2012

Haul y Gaeaf

Diwrnod hyfryd heulog heddiw: diwrnod perffaith i lanhau’r mwsogl o’r pafin a gwylio tymheredd y dŵr yn y tanc haul yn codi heibio 40 gradd. Dyw hi ddim wedi bod yn dwym achos daw’r gwynt o’r dwyrain, ond dyw hynny ddim yn poeni’r paneli haul. A’r mwsogl: rwy’n gwybod ei fod yn blanhigyn pwysig, ond pan fydd e’n dechrau tyfu dros y pafin mewn ffordd beryglus, sori, mae’n cael mynd.

Daeth ymwelwyr cynta’r flwyddyn heibio tra’r own i’n gweithio; cwpl o gerddwyr yn chwilio am y llwybr fyddai’n eu harwain at Ribadesella. Bydd busnesau twristaidd y dref yn falch iawn o’u gweld nhw, rhaid dweud. Dyna’r unig ddiwydiant sydd ar ôl yn yr ardal hon ar wahan i ffermio a physgota. A bod yn deg, mae pobl yn awr yn deall bod eisiau gwella’r ‘cynnig’ i ymwelwyr. Efallai bod ethol swyddog dwristiaeth yn faer yn beth da, achos mae sôn am drefnu cyrsiau i weithwyr gwestyau a thai bwyta er mwyn codi safon ac ymestyn amrywiaeth yr hyn sydd i gael. (Mae tref gyfagos eisoes wedi dechrau ar eu cyrsiau nhw: dysgu’r iaith Saesneg.)

Ond beth maen nhw wir eisiau yw cael un o’r arwyddion twristaidd brown yna ar y draffordd yn hysbysebu ogof Tito Bustillo a’i lluniau o Oes y Garreg. Mae fel carreg mewn esgid bod yr un sydd yno’n barod, ar brif droad Ribadesella, yn hysbysebu eglwys Covadonga. A gan fod dau droad yn mynd i Ribadesella, fe allen nhw wastod dodi arwydd yr Ogof ar y llall.

 

 

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: