Heb gael yr agoriad swyddogol eto, ond mae llwybr glan y Guadamia wedi ei glirio o’r pentref hyd at y môr. Afon hynod yw hi hefyd, dim ond 7km i gyd ond yn pasio drwy bob math o dirwedd. Yn anffodus cymylog yw hi heddiw, ac erbyn hyn yn bwrw glaw, ond fe lwyddon ni i gerdded yno ac yn ôl yn bensych. 2km o natur newydd inni: coed cyll ac ynn, rhaeadrau bach a llecynnau tawel.
Dyma hen felin a phont Tosquila – seren y daith. Y felin wedi hen fynd yn adfail ond y bont gul (lle i asyn heb ei gart) yn dal yn fwa cain uwch y dŵr.
Dyma’r unig raeadr a welsom oedd heb felin: flynyddoedd yn ôl roedd tair melin ar 2km olaf yr afon, a phump rhwng dechrau’r llwybr hwn a’r briffordd.
Mae dwy bompren newydd wedi eu gosod ar draws yr afon, ond mewn mannau eraill fe welir o hyd y cerrig a ddefnyddiwyd yn yr oes o’r blaen. Bydd y gwaith o gadw’r mieri ac ati o dan reolaeth yn parhau am byth – tro nesaf bydd rhaid mynd â siswrn. Gwaith hanner awr hawdd oedd hi i gyrraedd y traeth, hyd yn oed wrth aros lawer gwaith i edrych ar bethau – a sawl llwybr yn codi o’r afon ar y naill lan a’r llall fydd yn werth eu dilyn ryw ddydd arall.
WOW! Wonderful photos, and a whole new Guadamia world (way beyond the scope of my aqua shoes)…
By: s&j on Ionawr 16, 2012
at 1:34 am