Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ionawr 16, 2012

Tywydd Od neu Newid Hinsawdd

Oer (9C) a gwlyb yw hi ar yr arfordir heddiw, ac wedi bod ers bron i 24 awr. Ym mynyddoedd y Cordillera Cantábrica, cyrhaeddodd yr eira; rhaid defnyddio cadwyni i groesi’r bylchau llai prysur, ac ar rai heolydd bach eraill hefyd. Ond does dim digon o eira i’r canolfannau sgio: mae rhai heb agor o gwbl y gaeaf yma, ac eisoes wedi colli ymwelwyr gwyliau’r Cyfansoddiad ddechrau Rhagfyr, a Nadolig, a’r flwyddyn newydd. Ddaw’r cwsmeriaid hynny ddim yn ôl, a gan fod y tywydd fel arfer yn dechrau meirioli erbyn diwedd y Mis Bach mae’n edrych yn dymor digon salw ar y gorsafoedd chwaraeon rhew ac eira.

Beth wyf i am wybod, ac wrth gwrs yn ffaelu, yw ai amrywiaeth ddisgwyledig yw’r tywydd eleni, ai arwydd o rywbeth tymor-hir. Sdim gwerth cwyno am y glaw: mae ei angen e arnom ni i’r coed ac ar y cronfeydd dŵr. Hydref a gaeaf digon sych a gawsom hyd yma, gyda stormydd o wynt yn hytrach na glaw. Mae cronfeydd gogledd Sbaen ond ychydig dros hanner llawn – 55% – yn ystod yr un wythnos y llynedd roedden nhw’n dal 84% o’r dŵr posib. Ond yr amser hyn llynedd roedd hi eisoes wedi bod yn bwrw glaw am wythnos gyfan, ac fe aeth ymlaen i wneud hynny am fis arall!

Gyda fiesta San Anton ddiwedd yr wythnos dymunwn ychydig o ddyddiau sych ond mae gen i syniad y byddwn yn gorymdeithio yn y glaw eleni eto.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: