Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ionawr 17, 2012

O’r Ardd: Clirio

Dim glaw heddiw felly mâs i’r ardd eto i wneud mwy o waith clirio a glanhau. Mae dail yn dal i gwympo o’r coed afalau – ym mis Ionawr! – digon i ychwanegu sawl whilberaid i’r domen deilbridd. Rwyf i yn mynd i’w orchuddio nawr â phlastig du, wedi darllen na ddylid ei adael yn agored neu bydd y dail yn cymryd hydoedd i bydru.

Wedyn i’r heol fach tu fâs,  i’r wal, i geisio cael rhyw drefn ar y winwydden (Rwsia, rwy’n credu) sy’n tyfu ar ei hyd. Mae’r winwydden yn marw ‘nôl dros y gaeaf, a doeddwn i heb glirio’r canghennau sychion o gwbl llynedd. Ar ben hynny roedd iorwg (eiddew) wedi gwreiddio yn y wal, a lle ‘roedd ei dail hi yn dal yn las a llaith roedd peth o’r winwydden wedi pydru. Tynnu – ddim yn rhy galed – er mwyn cael gwybod beth sy’n farw a beth ddaw ‘nôl. Tynnu – yn galed iawn – i gael yr iorwg mâs yn gyfan.

Ar y pwynt yna fe gyrhaeddodd cyfeillion, esgus da i adael y gwaith llychlyd ac eistedd i lawr am baned.

A dyma nhw’r cennin Pedr yn nhop y cae, yn barod i fiesta’r pentref ddydd Sadwrn. Tynnais i’r llun am 1 o’r gloch, ac eto mae cysgod y graig yn drwm dros y borfa. Rwy’n credu bydd angen codi rhain yn yr hydref a’u hymwahanu nhw, achos mae llawer heb flodyn eleni.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: