Mae hanes yr unben Franco, a fu farw ym 1975, a’r frwydr yn erbyn ef a’i ddilynwyr yn taflu cysgod oer dros fywyd cyhoeddus Asturias a gweddill Sbaen hyd heddiw. Ddoe fe gladdwyd Manuel Fraga, a fu farw yntau yn 89 mlwydd oed ar ôl hir oes wleidyddol, yn gyntaf fel Gweinidog y Wasg a Phropaganda gyda Franco ac wedyn o dan y drefn ddemocrataidd gyda’r PP (sydd yn llywodraethu yn awr yn Sbaen ac mewn llawer o’r cymunedau awtonomaidd.)
Heddiw rydym yn dathlu penblwydd Santiago Carrillo yn 97. Bu hen arweinydd Plaid Gomiwnyddol Sbaen yn ymladd yn ystod y rhyfel 1936-39: yn ôl Hugh Thomas yn ei lyfr cynhwysfawr ´The Spanish Civil War´ fe oedd y comiwnydd olaf i adael Madrid. Erbyn hyn dyw ei iechyd ddim yn dda, ond mae pobl yn dal i ymosod arno oherwydd digwyddiadau’r rhyfel: ddeuddydd yn ôl fe ail gyhoeddwyd llythyr oedd yn ei gyhuddo o ddwyn modrwyon o gyrff. Bachan o Asturias yw e, wedi ei eni yn Gijón.
A heddiw mae un o gyfreithwyr a barnwyr pennaf Sbaen yn eistedd yn y doc o flaen un o’i gymrodyr dysgedig ar gyhuddiad a wnaed gan yr undeb ffasgaidd Manos Limpias (Dwylo Glân). Mae’r cwbl yn deillio o achos lle bu Baltasar Garzón yn ymchwilio i bobol oedd wedi diflannu yn ystod cyfnod Franco wedi’r rhyfel, ac yn ymwneud â hawl y barnwr i gynnal y fath ymchwiliad. Dylai fod yn ddiddorol.
Diolch am hyn diddorol iawn. Fel un sydd a diddordeb mawr yn Rhyfel Catref Spaen dwi wedi clywed am Fraga a Carillo ond heb sylweddoli pwysigrwydd Carillo ai dad yn yr achos gweriniaethol. Dwi heb ddarllen llyfr Thomas ond wedi darllen nifer o lyfrau Paul Preston ag Anthony Beevor ond fy hoff lyfr ydy The Ghosts of Spain gan Giles Tremlett. Dwi’n cymeryd fod Carillo wedi dianc o Spaen yn 1939 a dod yn ol yn 1975 ie?
Oes na linc i gael gwybod mwy am yr achos yn erbyn Baltasar Garzon.
Arfon.
By: Arfon Jones on Ionawr 19, 2012
at 10:53 pm
Do fe aeth Carrillo i Paris a dychwelyd ym 1976 ar ôl marwolaeth Franco. Llyfr arall sy’n werth ei ddarllen – yn wahanol am fod yr awdur wedi bod yn byw yn Sbaen ers 20 mlynedd cyn y rhyfel ac yn dangos ei deimladau – yw the Spanish Labyrinth gan Gerald Brenan, yn enwedig am darddiad y rhyfel. Yr hyn sy’n anodd ei amgyffred weithiau ond rhaid ei gofio yw mor ynysedig oedd taleithiau Sbaen, a’r diffyg cyfryngau cyfathrebu rhyngddynt. Felly roedd miloedd o bobl yn penderfynu mynd yr un ffordd – i’r dyfodol neu’r traddodiadol – am lawer reswm gwahanol. Roedd hyn yn iawn ar y dechrau, ond pan ddaeth problemau doedd dim digon yn eu cadw ynghlwm. Heb sôn am yr Eidal, yr Almaen, y Pab nac agwedd Prydain, wrth gwrs.
Os wyt ti’n darllen Sbaeneg, y lle gorau i ddilyn achos Garzón yw El País, os na maen nhw’n cyfieithu’r cwbl i’r Saesneg fan hyn: http://www.elpais.com/english/
By: cathasturias on Ionawr 19, 2012
at 11:11 pm
Llyfr arall sydd yn werth ei ddarllen: Telegram from Guernica gan Stephen Rankin
By: cathasturias on Ionawr 29, 2012
at 1:52 pm
Diolch am y ddolen at El Pais. Heb ddarllen y cofnod blog yma i gyd, ond mae’r cartŵn yn un da!:
http://blogs.elpais.com/trans-iberian/2012/01/why-they-hate-garzon.html
By: Rhys on Ionawr 21, 2012
at 10:53 pm