Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ionawr 19, 2012

Iaith yr Ysgol yn y Senedd

Bydd cwestiynau’n cael eu gofyn yn Senedd Sbaen am yr iaith Astwreg – ac yn yr iaith Astwreg. Mae cynrychiolydd IU Asturias yn y senedd, Gaspar Llamazares, wedi cyhoeddi ei fod am ofyn nifer o gwestiynau am addysg Astwreg.

Beth sy’n ei boeni fwyaf yw’r diffyg clirdeb yn y drefn cyhyd ag y mae’r iaith yn y cwestiwn. Erbyn hyn mae dros 250 o athrawon wedi cwblhau cyrsiau sy’n eu cymhwyso i ddysgu Astwreg mewn ysgolion cynradd ac uwchradd. Nid yn unig wedi graddio, maen nhw yno yn yr ysgolion yn dysgu Astwreg. Ond dyw eu harbenigedd ddim yn cael ei chydnabod na’i gwobrwyo. A’r broblem? Mater i Astwrias yw’r cyrsiau, ond mater i’r Weinyddiaeth Addysg yn Madrid yw cydnabod yr arbenigedd.

Dywed Llamazares y bydd e hefyd yn agor dadl fer yn y senedd (fydd ddim yn arwain at newid deddf) lle bydd yn siarad o blaid mwy o ddatblygu ar ddefnydd yr iaith. Clymblaid o gwmpas yr hen blaid gomiwnyddol yw IU (Izquierda Unida). Gwnaeth yn dda yn yr etholiad diwethaf, ar draul y PSOE, ond ymgyrchu diwydiannol yw ei hanes a’i chryfder, felly diddorol gweld ei bod yn barod i fentro i feysydd newydd.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: