Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ionawr 20, 2012

Dirgelwch y Cwch Gwag

Cwch bach fel y rhai sy’n cael eu defnyddio gan bysgotwyr crancod a chimychiaid – neu a oedd e’n gwch fu’n perthyn i dîm o smyglwyr drygiau, wedi ei adael yn rhydd ar donnau’r Iwerydd ar ôl i forwyr y prif long weld yr heddlu’n agosau? Fe gafwyd y cwch ddeuddydd yn ôl gan long achub bywydau arfordir dwyrain Asturias, ryw 20 milltir môr i’r gogledd o borthladd Llanes. Roedd hi’n gwch agored 8m o hyd, ac yn amlwg wedi bod yn y dŵr ers misoedd.

Roedd y drwgdybiaeth ynglŷn â drygiau’n deillio o’r ffaith fod llawer o gocên o Dde America yn cael ei smyglo i fewn i Ewrop drwy rias – cilfachau môr – Galicia, 200km i’r gorllewin o lle nofiai’r cwch di-enw.  Ond heddiw cawsom wybod fod y cwch wedi dod o’r Unol Daleithiau, o Ynys Nantucket i fod yn fanwl. Ac ar ôl 6000km o fordaith roedd hi mewn cyflwr eithriadol: y seddi, y radio, y ddau fodur, hyd yn oed mapiau o arfordir Massachusetts yn dal i fod yn eu priod le.

Yr hyn na wyddom eto yw pwy sy bia’r cwch, na phryd y gadawodd hi Nantucket. Na sut: oedd rhywun ar ei bwrdd neu a ryddhawyd yn ddamweiniol. Efallai gewn ni fwy yfory.

Advertisements

Responses

  1. Unryw ddiweddariad ar y cwch gwag?

    • Dim eto – credu af i chwilio ar wefannau Nantucket.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: