Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ionawr 21, 2012

San Anton 2012

Mae fiestas pentrefi Asturias – a gweddill Sbaen am wn i – yn rhyfeddod yn enwedig yn awr yn oes y cyni a’r diweithdra. Deg-ar-hugain o ferched yn talu €50 yr un – a hanner hwnnw i ddwsin o blant bach – i hurio gwisg draddodiadol am ddiwrnod, er mwyn cerdded (OK, gorymdeithio) lan a lawr stryd y pentref ac eistedd mewn eglwys oer drwy gydol yr offeren.  Ar ddydd gŵyl fiesta mae pobl sydd ond yn mynd i glywed offeren amser Nadolig a’r Pasg yn troi mâs, er bod llawer ohonom ni’n gorfod dilyn y gweddill i wybod pryd i sefyll a phryd i fynd ar ein gliniau.

Ar ôl yr offeren mae ocsiwn (subasta yn Sbaeneg, puja yn Astwreg) lle bydd cymdogion yn dod â chynnyrch y tir a’r môr i’w gwerthu am y pris uchaf posib er mwyn talu am y fiesta fawr yn yr haf.

Dyma Miguel yn gwerthu gwpl o ffowls a Pelayo yn cadw cofnod o bob dim. Ymysg y cynnyrch heddiw roedd wynwns, caws, xaragu (math o bysgod), crancod a chacenni yn ogystal â’r ieir. Diolch byth wnaeth hi ddim bwrw glaw yn ystod yr orymdaith – aros i weld beth wneith hi heno pan fyddwn yn ymgynull eto yng nghanol y pentref i ddawnsio tan yr oriau mân.


Responses

  1. Lle mae’r bae yna sydd gen ti’n llun ar y blog? I lle i fynd yn Asturias, Oviedo, Aviles neu Gijon i weld y rhanbarth? Gen i awydd cael golwg ar y lle ryw ben flwyddyn yma.

    • Bae afon/traeth Guadamia yw e, ar y ffin rhwng Ribadesella a llanes,aber cul ond hyfryd a dim ond 20 munud o gerdded o’r tŷ. Ble i fynd: wel, canol Aviles yn hen a di-draffig, Gijon yn fywiog, mynyddoedd y Picos yn rhywbeth na fyddi di’n anghofio, Somiedo yn y gorllewin yn wyllt (ac mae pobl wedi gweld eirth yno). Fiestas yn rhywle bob penwythnos.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: