Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ionawr 22, 2012

Barnu´r Barnwr

Mae disgwyl y daw’r rheithfarn yn achos y barnwr Balthasar Garzón yn gynnar yr wythnos hon – yfory efallai. Bydd rhai’n cofio Garzón: nôl ym 1998, fe oedd y barnwr wnaeth ofyn i awdurdodau’r DU (Jack Straw os wy’n cofio’n iawn) arestio cyn-lywydd Chile, Augusto Pinochet, am orchymyn lladd nifer o Sbaenwyr yn ystod ei gyfnod gorthrymus wrth y llyw. Ond mae e’n llawer pwysicach. Fe ddatganodd fod troseddau’r unben Franco yn ‘droseddau yn erbyn dynolryw’, ac felly ei fod yn bosib eu herlyn heb ddyddiad cau. Ond penderfynodd eraill eu bod yn dod o dan anghofraith gyffredinol a bu’n rhaid iddo roi’r gorau i’r ymchwiliad.

Daw ei achos presennol o ymchwiliad i’r diffynyddion yn achos Gurtel, sy’n ymwneud â llygredd athrwyddedau cynllunio yng nghymuned Valencia, ac sy’n mynd ymlaen mewn llys arall ar hyn o bryd.  Bu’r heddlu, ar ei gais ef, yn gwrando ar sgyrsiau rhai o’r diffynyddion gyda’u cyfreithwyr tra roedden nhw’n cael eu dal yn y carchar cyn dechrau’r achos. Fel arfer byddai gwneud hyn yn peryglu gallu’r diffynyddion i baratoi’u hachos, ond dywed Garzón bod rhai o’r cyfreithwyr wrthi’n trefnu golchi arian y diffynyddion mewn banciau tramor.  Nes ymlaen fe gafwyd €24m yn perthyn iddyn nhw wedi eu cuddio mewn banciau yn y Swistir.

Os bydd y rheithfarn yn mynd yn erbyn Garzón, fe allai gael ei wahardd rhag ei waith am 17 flynedd. Ond oherwydd ei oedran – mae’n 56 – digon tebyg na fyddai’n dychwelyd o gwbl. Ac os bydd e’n ennill, nid dyna’r diwedd: bydd yn wynebu achos newydd yr wythnos nesaf yn ymwneud â’i ymchwiliad i droseddau dilynwyr Franco. Rwy’n credu bydd hwnnw’n ymddangos yn rhaglenni a cholofnau’r cyfryngau ar draws y byd, ond yn bendant ar dudalenni Saesneg El País fan hyn.


Responses

  1. Gret o flog dwi wedi rhoi hwb drwy rannu’r linc ar fy nhudalen FB i.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: