Wyddwn i ddim o hanes ‘iot´ yr unben Franco – tan heddiw. Ie, roedd ganddo yntau long hwylio, yr Azor, (gwalch – yr aderyn, h.y.) oedd yn cael ei defnyddio ar gyfer cyfarfodydd pwysig yn ogystal â mordeithiau pleser. Ar ôl ei farwolaeth doedd y wladwriaeth newydd ddim yn fodlon derbyn y llong fel rhan o dreftadaeth y llywodraeth o’r blaen, ac ymhen dipyn fe’i gwerthwyd. Ond aeth pethau’n lletchwith ar y prynwr ac fe adawyd yr Azor mewn cae yn nhalaith Burgos, ymhell o’r môr, am flynyddoedd lawer.
Fe ddaeth yn bererindaith i rai, fynd yno i weld iot eu harwr yng nghanol y borfa a’r mieri. Fe werthwyd y tir, ond roedd y llong yn dal yno. Ond yn awr mae wedi diflannu, ac ni fydd yn bosib ei hadnabod eto. Mae’r dur wedi ei wasgu i siapau hollol newydd, ei gerflunio’n ddarn o gelf anferth sydd yn awr i’w weld yn un o orielau Madrid. Mae un o symbolau ffasgaeth Franco wedi dibennu yn edrych fel wal o chatarra – haearn sgrap. A dyna oedd bwriad yr artist, Fernando Sánchez Castillo, a dreuliodd amser yn ymchwilio i arwyddocad yr Azor cyn ei brynu. Mae gyda fe arddangosfa ehangach ar thema tebyg – hanes Sbaen yn y ganrif ddiwethaf – yn awr yn León.
Trueni nad yw holl syniadau’r unben wedi cwrdd â’r un ffawd â’i iot.
Stori wych, diolch am ei rhannu gyda ni.
By: Rhys on Ionawr 24, 2012
at 1:16 pm