Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ionawr 24, 2012

Synhwyro

Y bore ‘ma rwyf yn mwynhau o’r newydd yr holl bethau sydd o’m cwmpas. Heno rwy’n gorfod hedfan i Lundain, lle mae cyfeilles bore oes yn ddifrifol wael. Sdim dal a fydd hi’n fy nabod i nac yn ymwybodol fy mod i yno. Ymgolli felly yn yr hyn sydd i’w weld, a’i glywed.

Yn y cae gyferbyn mae tair caseg ddu. Bob tro maen nhw’n plygu pen i bori, neu symud un troed o flaen y llall, mae’r clychau am eu gyddfau’n canu. Maen nhw i glywed am oriau, haul a glaw, o ben bore tan ymhell ar ôl iddi nosi.

Mae cymydog yn lladd gwair o gwmpas y tŷ. Rwy’n ei glywed e’n rhoi min ar ei bladur cyn troi i’r rhes nesaf, y garreg hogi’n symud yn araf, ond yn ddi-dor, dros wyneb y gyllell. Wrth ei weld e fel hyn mae rhywun yn deall gwir ystyr ‘lladd’ gwair – ei dorri rywle o gwmpas y migyrnau, fel petai ar faes y gâd.

Yn y mimosa mae gwenyn – gwenyn bach coch cynefin, nid wedi dod o gwch. Maen nhw’n dwli ar y mimosa, ac wrth fynd i sefyll o dan ei changhennau yr wyf yng nghanol eu murmur ac arogl pêr y blodau bach melyn.

Codi’m llygaid eto at y mynyddoedd, lle mae cymylau tenau hir yn ffurfio ychydig o dan cefn y sierra, lle mae’r awyr yn newid: oer yn cwrdd â thwym, sych yn cwrdd â gwlyb. Yn ffurfio, yn codi ac yn teneuo eto nes diflannu’n gyfangwbl.

Ac ar ôl iddi dywyllu, y dylluan. Mae’n hoff o eistedd ar reilen y corredor (balconi) cyn gweld rhyw symudiad bach a phlymio lawr yn sgrechen.

Pethau i’w dwyn mewn cof mewn dinas ac ysbyty. Ac na phoener. Bydda’i’n dal mewn cysylltiad â’r pentref, ac yn dilyn y newyddion, tra bydda’i bant – yn enwedig achos Garzón sy’n dechrau heddiw,

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: