Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ionawr 25, 2012

Y Picos yn Mynd yn Fwy

I’r rhai sy’n ystyried ymweld â Pharc Cenedlaethol y Picos de Europa, newyddion da: bydd mwy ohono fe i gael eleni! Bydd 2500ha o dir ar ffin ogledd-ddwyreiniol y parc yn cael ei ychwanegu at yr ardal sy’n cael ei diogelu. Dyw’r rhain ddim yn erwau y bydd y rhan fwyaf o dwristiaid yn ymweld â nhw byth bythoedd. Sôn yr wyf am geunentydd neu hafnau, cymoedd cul a dwfn gydag ochrau o glogwyni creigiog.

ceunant ffoto:cathasturias

Yn y llun yma, os drychi di tua’r chwith, mae’r cwm yn culhau yn yn mynd yn fwy creigiog. Sdim llawer o bethau’n gallu tyfu mewn llefydd fel hyn, ond mae’r derw bythwyrdd wrth eu bodd ar bared serth, ac yn y gwaelod ar lan y nant, rhedyn prin o sawl wahanol math. Mae na gwmniau sy’n trefnu teithiau barranquismo (dringo lawr pen y ceunant, cerdded drwy’r dŵr a thros y cerrig mawr yng ngwely’r afon, a rywsut rywsut cyrraedd pendraw’r hafn a gweld yr haul eto). Fel y mae’r frawddeg yna’n awgrymu, dyw e ddim yn rhywbeth yr wyf i erioed wedi gwneud – ond efallai y gallwn ddechrau yn y gwaelod a chael pip ar y rhedyn…

Nid ceunentyddd yw’r tir newydd i gyd: mae hefyd llethrau o rostir a nifer o goed castan hen iawn. Heb sôn am nyth sefydlog pâr o eryrod euraid a llu o fwlturiaid.  Edrych ymlaen yn ofnadw at gael mynd i gerdded yn y Picos eto.

 


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: