Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ionawr 28, 2012

Diwedd y Gân heb Geiniog

Llywodraeth leiafrifol yn gorfod gweithredu heb gyllideb oherwydd gwrthwynebiad pob plaid arall yn y senedd; llywodraeth sy’n ddibynnol ar arian trethi o Madrid; a gwasanaeth iechyd sydd eisoes mewn dyled hyd at €100m. Rhybudd na fydd cyflogau gweithwyr iechyd yn ddiogel. Dyna fel mae pethau yn Asturias heddiw. Ychwanegwch yr halen: mae llywodraeth Sbaen yn mynnu bod pob cymuned awtonomaidd yn cadw at y ffigyrau gwario y maen nhw wedi penderfynu, ac yn bygwth dirwyo unrhyw un sy’n gwario mwy.

Oes mae gyda ni leoliad bendigedig: mynyddoedd pigog uchel, ardaloedd eang sy’n agos iawn at wylltineb naturiol, clogwyni a thraethau di-ri. Ond er bod pobl yn gallu ‘bwyta tirwedd’ i raddau – mae’r cynnyrch lleol yn arbennig – fydd tirwedd ddim yn prynu’r holl bethau eraill mae pobl eu hangen. Mae’r cymdogion (y rhai sydd wedi croesi’r trigain) yn cofio gwisgo dillad o frethyn neu liain – a’r llin yn cael ei dyfu a’i brosesu gan y teulu. Dyna pam mae cymaint o felinau bach ar afon Guadamia: roedd pobl yn melino’u hŷd neu maiz eu hunain. Roedd y crydd yn mynd o gwmpas o un pentref i’r llall yn cyweirio esgidiau, dŵr yn dod o’r glaw neu o’r afon, a thrydan heb gyrraedd eto.

Fydd y cyni sydd o’n blaen yn golygu dychwelyd i’r safon yna o fyw? Nid ar unwaith, ond ymhen 5-10 mlynedd, pan fydd yr olaf mewn teulu wedi colli’i waith a’r cynilion i gyd wedi mynd, a’r trysorau bach wedi eu gwerthu. Achos ar hyn o bryd beth sy’n digwydd yw hyn: rhieni yn helpu’n eu plant, teidiau a modrybedd yn cynnig llety neu fwyd. Yn amlwg mae’r arian hynny’n mynd i redeg mâs, a bydd yr henwyr eisiau mwy o gymorth eu hunain. Beth sy’n digwydd wedyn, i bobl sy’n ffaelu fforddio trydan na dŵr glân?

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: