Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ionawr 29, 2012

Trybini Brenhinol

Lleoliad: Rhan 1: ynys ym Môr y Canoldir. Rhan 2: cenedl sy’n bodoli o fewn gwladwriaeth arall

Cymeriadau: aelod o deulu brenhinol y wladwriaeth fawr, wedi ei gyhuddo o droseddau ariannol mawr; y ‘barnwr dewr’ (nid Garzón yw e heddiw); pennaeth cwmni teledu y genedl llai, aelod o senedd y genedl llai sydd yn erbyn annibyniaeth ac yn gefnogol i’r gyfundreth frenhinol.

Bydd Iñaki Urdangarin, dug Palma a mab-yng-nghyfraith brenin Sbaen, yn sefyll ei brawf o fewn y mis, o flaen y barnwr José Castro ym Mallorca. Jyst i atgoffa, fe’i gyhuddir o symud miliynau o ewros o gronfeydd Sefydliad Noos, cwmni di-elw a sefydlwyd ganddo ac oedd wedi derbyn y miliynau yn bennaf oddi wrth lywodraeth Ynysoedd y Baleares am drefnu cynadleddau ac ati.

Mae’r achos wedi rhoi min newydd ar y ddadl dros ac yn erbyn y frenhiniaeth, dadl sydd wedi bod yn symud i gyfeiriad y gwerinaethwyr dros y blynyddoedd diwethaf. Roedd TVC, cwmni teledu Catalunya, wedi bod wrthi ers sbel yn paratoi rhaglen ddogfen ‘Monarquía o República?’, a’r si yw ei bod hi’n barod i’w darlledu. Pan ymddangosodd y cadeirydd corfforaeth radio a theledu o flaen pwyllgor o’r senedd Catalan, fe ddwedodd nad oedd wedi’i chwblau eto, ond yn amlwg byddai unrhyw darlledwr eisiau cael y peth ar yr awyr yn ystod cyfnod lle mae’r ddadl yn boeth.

Dirprwy o’r PP, y blaid sydd yn rheoli ar raddfa Sbeinig ond nid yn Catalunya, a gododd y mater. Roedd e’n rhybuddio y gallai’r rhaglen (nad yw efe, wrth gwrs, wedi ei gweld) gwneud niwed i’r frenhiniaeth o’i darlledu yn ystod achos Urdangarin. Chwarae teg iddo, fel ddaeth y cadeirydd yn syth yn ôl a dweud nad oedd ei gwmni’n gweithredu ar sail ‘tabŵs’ a’i fod yn rhydd i drin y brenin a’i deulu fel unrhyw bennaeth gwladol arall.

Rwy’n amau bod y PP wedi gweithredu’n ddi-feddwl yn gofyn y cwestiwn yn y lle cyntaf. Petawn i yn lle penaethiaid TVC byddwn yn sicrhau darllediad cynnar iawn i’r rhaglen.

Advertisements

Responses

  1. Diolch, rwyt ti fel gwefan newyddion Sbaen yn Gymraeg.
    Gwasanaeth gwych i gymharu ar BBC…dwi ddim yn meddwl fod no stori o Sbaen ar gwefan y BBC flwyddyn yma.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: