Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ionawr 30, 2012

Mordaith Anhygoel y Cwch Gwag

Tair blynedd a hanner gymrodd e i’r cwch bach â neb wrth y llyw.  Pan gafwyd y ‘Queen Bee’ gan wasanaeth achub bywyd Sbaen oddi ar arfordir Asturias 10 diwrnod yn ôl, roedd hi wedi dod o’r Unol Daleithiau – a nawr mae’r hanes wedi ei adrodd yn llawn.

Nôl ym mis Awst 2008, roedd perchennog y cwch a’i frawd-yng-nghyfraith yn pysgota ar dywydd mawr ger ynys Nantucket, hen bencadlys y llongau morfil. Fe’u hysgubwyd i’r môr gan don anferth, a bu’n rhaid iddyn nhw nofio am ddwy awr i gyrraedd y lan. ‘Doeddem ni ddim yn siŵr o gwbl a fydden ni’n cyrraedd’, meddai Scott Douglas wrth y cyfryngau lleol. A doedd dim gobaith achub y ‘Queen Bee’.

Crêd gwylwyr y glannau bod y cwch wedi cael ei gario i’r gogledd, wedyn draw i gyfeiriad Gwlad yr Iâ, cyn ei throi hi am y de eto ac anelu am Asturias. Ac mae Scott ag enaid bardd yn ogystal â physgotwr. Dyma beth ddwedodd e am y fordaith hir:

‘Mae’r holl beth yn wyrth. Beth wnaeth y cwch bach anhygoel yma wrth deithio drwy’r tonnau a’r stormydd? Sut lwyddodd e i oroesi’r cyfan a chyrraedd Sbaen? Pa gyfeillion gafodd ymysg yr adar a’r pysgod, pa longau mawr a welodd?’

(Mae’r frawddeg olaf yn atgoffa fi o Rosie Probert yn Under Milk Wood.)

A’i fwriad e nawr yw troi’r hanes yn chwedl i blant, yn ôl gofyniad ei wyrion. Ym mhorthladd Llanes, preswylfa bresennol y ‘Queen Bee’, maen nhw’n edrych ymlaen at gael Nantucket yn efaill-dref.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: