Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ionawr 31, 2012

Senedd yn Cael ei Diddymu

Ym Mrwsel mae’r cytundeb sydd i fod i achub yr € wedi ei arwyddo, yn Madrid mae cannoedd o bobl yn protestio tu fâs i’r llys lle mae’r barnwr Balthasar Garzón yn sefyll ei brawf – ac yn Asturias mae’r llywydd cymunedol wedi diddymu’r senedd a galw etholiad newydd i’w gynnal ddiwedd mis Mawrth.

Chwe mis mae Francisco Alvarez-Cascos wedi bod yn y swydd, ar ôl i’w blaid bersonol Foro Asturias ennill ddigon o bleidleisiau i gymryd yr awennau, ond dim digon i ffurfio llywodraeth fwyafrifol. Ac fe ddaeth hynny ar ôl i’w hen blaid, y PP (ceidwadwyr), ei wrthod fel ei hymgeisydd nhw ar gyfer yr etholiadau hynny.

Ers hynny mae e wedi cau’r ganolfan Niemeyer, canolfan arbennig i theatr a’r celfyddydau a agorwyd flwyddyn yn ôl; atal arian oedd yn ddyledus i gwmni teledu’r gymuned TPA; cythruddo ffermwyr a physgotwyr drwy gynnig newidiadau oedd wedyn yn cael eu tynnu nôl, a’r wythnos ddiwethaf methu â chael y senedd i dderbyn ei gyllideb. Rho glic ar Cascos yn y cwmwl geiriau ar y dde i gael gwybod mwy!

Dyna’r cefndir: heno byddaf yn diweddaru’r stori gyda digwyddiadau’r diwrnod, ond awr rwy’n mynd i eistedd gyda fy nghyfeilles ar ei gwely angau.

21.00: A dweud y gwir sdim llawer wedi datblygu yn ystod y diwrnod. Arweinwyr y gwrthbleidiau yn beio Cascos am ei ‘anallu i drafod telerau’ ar y gyllideb a phethau eraill, ac yn ei gyhuddo o fod eisiau gorchymyn yn lle arwain. Ei gefnogwyr yntau yn dweud y bydd yr etholiad ychwnegol yn dangos faint o ffydd sydd gan yr etholwyr ynddo. Wel, ie, wir.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: