Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Chwefror 2, 2012

Ceidwadwyr yn Bygwth y Costas

Mae gweinidog newydd yr amgylchedd yn Sbaen wedi cyhoeddi ei fod e am wneud newidiadau dirfawr yn y ddeddf sy’n diogelu natur yr arfordir. Mae’r ddeddf wedi bodoli ers achau, ond dim ond o dan y llywodraeth ddiwethaf, Zapatero a’r PSOE, y defnyddiwyd hi i dynnu i lawr adeiladau oedd wedi cael eu codi’n rhy agos i’r môr ac i wahardd rhagor o adeiladu.

traeth Vega ffoto:cathasturias

Beth fyddai’n digwydd i draethau fel Vega, yr ochr draw i Ribadesella? Mae’n cael ei ddiogelu nawr mewn sawl ffordd: mae ardal y traeth ei hunan yn dwyni tywod pwysig, ac ar bob ochr i’r heol gul sy’n arwain ato mae ‘na greigiau mewn siapau rhyfedd sydd hefyd yn cael eu gwarchod. Ond fel y gweli di yng nghefn y llun, mae digon o le yn yr ochr draw i godi tai, neu westy, a heol newydd yn lle’r llwybr sydd yno nawr (rhan o lwybr y pererinion i Santiago, ond beth yw’r ots am hynny).

A beth am ein hannwyl Guadamia? Ydy’r person sydd wedi bod yn prynu tir fan hyn a fan draw er mwyn rhoi’r cwbl at ei gilydd yn mynd i gael gweireddu’i freuddwyd o gau’r traeth ar ein hochr ni o’r afon?

Dywed y gweinidog y bydd yn dal i ddiogelu’r arfordir, ond hefyd yn ‘hybu datblygiad economaidd’ yno. Doedd hyn ddim hyd yn oed yn ymddangos ym maniffesto’r PP cyn yr etholiad.

Yn ystod yr un araith fe wnaeth e’n glir hefyd y byddai’n ail-ddechrau ar y cynllun i drosglwyddo dŵr – miliynau o hm3 (hectametrau ciwb) o ddŵr – o ddelta’r afon Ebro i ddinasoedd ar hyd arfordir dwyreiniol Sbaen. Ac i gyrsiau golff hefyd, wrth gwrs. Mae pob hm3 yn 2.2m o alwyni. Eto. rhywbeth oedd wedi ei gynllunio sbel yn ôl ond y gwnaeth y llwyodraeth ddiwethaf ei adael naill ochr. Byddai’r effaith ar yr adar sy’n byw yn y gwlyptiroedd eang yn ddifrifol, heb sôn am yr effaith ar y bobl sy’n ffermio ar hyd yr afon.

 

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: