Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Chwefror 3, 2012

Cwtogi Cyflogau Bancwyr

Rwy’n synnu fy hunan yn cael cyfle i sgrifennu’r geiriau yma: mae llywodraeth Rajoy (PP) yn gwneud rhywbeth nad wyf yn syml yn ei gymeradwyo ond yn ei groesawu. Heddiw daeth cyhoeddiad eu bod nhw am roi terfyn pendant ar gyflogau bancwyr – rhai bancwyr. Mae sawl banc a sefydliad cynilo yn Sbaen wedi derbyn cymorth ariannol gan y wladwriaeth dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Dim byd yn od yn hynny, hyd y gwelaf mae wedi digwydd ym mhob un o wledydd cyfoethog y gorllewin. Ond oes na unrhyw le arall lle bu cyfyngiad ar gyflog?

Bydd y rheolau newydd yn dosbarthu’r banciau yn ôl y math o gymorth a gafwyd gan Fanc Sbaen: cyfranddaliadau blaenoriaethol neu berchnogaeth drwy ecwiti. Yn y dosbarth cynraf (FROB 1) bydd cadeiryddion yn cael derbyn hyd at €600,000, ac yn yr ail (FROB 2) dim mwy na €300,000, y flwyddyn, a bydd cyflogau cyfarwyddwyr ac uchel swyddogion hefyd yn cael eu cyfyngau. Bydd o leiaf un o’r crachach yma’n derbyn dim ond chwarter ei gyflog blaenorol, gyda’r cyfartaledd yn colli dwy dreian o’u hincwm. Ond mae rhai o’r sefydliadau yn fach ac yn daleithiol ac felly’n debyg o dalu llai beth bynnag.

Rwyf i wedi bod yn darllen sylwadau pobl ar y we ac ar y radio, ac mae croeso cyffredinol i’r mesur – y rhan fwyaf yn dweud nad yw e ddim yn mynd digon pell. Does NEB yn becso na fydd bancwyr da eisiau gweithio yn Sbaen, neb yn proffwydo tranc y banciau Sbeinig, dim ond dathlu bod yr argyfwng o’r diwedd wedi dechrau effeithio ar y rhai a’i hybodd.

Tybed a fydd unrhyw lywodraeth arall yn dilyn esiampl Sbaen?

 

 


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: