Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Chwefror 5, 2012

Dathlu Treftadaeth

Rhyfedd meddwl y gallai’r feidir fach sy’n mynd heibio tŷ ni ddod yn rhan o Safle Treftadaeth Byd. Mae’n rhan fechan o lwybr gogleddol y pererinion ar eu ffordd i Santiago de Compostela, llwybr llai adnabyddus o lawer na’r prif lwybr, sydd eisoes yn STB ac sy’n dilyn ucheldir y meseta drwy taleithiau Burgos a León.

   Ond heddiw mae grwpiau cyfeillion y camino del norte wedi ymgynull o ardaloedd yr holl ffordd o ffin Ffrainc i Galicia i ddechrau trefnu cynnig am y statws, gan obeithio y bydd yn dod â llawer mwy o bererinion – neu ymwelwyr – o bob ran o’r byd ac yn enwedig o’r rhannau hynny sy’n fwy cyfoethog ar hyn o bryd.

Mae llwybr y gogledd yn mynd ar hyd yr arfordir, ac er ei fod wedi cael cryn cyhoeddusrwydd yn ddiweddar, ychydig iawn o bobl sy’n ei gerdded o’i gymharu â’r prif lwybr – sdim problem cael llety fan hyn!

Tynnais i’r llun ar y dde yn ail wythnos mis Awst: uchafbwynt y tymor gwyliau. Dim ond rhyw 3 o bobl eraill a welsom, a’r rheiny ar eu ffordd i’r llety cyfagos tra roeddem ni’n cerdded ymlaen i’r pentref nesaf.

Tirwedd diwylliannol, yn wir. Rwy’n meddwl yn aml am y pererinion sydd wedi troedio’i lwybrau pridd a cherrig dros y canrifoedd.

Mae gan Asturias safleoedd treftadaeth byd yn barod: adeiladau o gyfnod brenhiniaeth yr Astwrwyr yn Uviéu/Oviedo, y rhan fwyaf ohonyn nhw’n eglwysi, a nifer o ogofau lle mae’r celf paleolithig wedi ei gynnwys gydag ogof enwog Altamira yn Cantábria fel lluos-safle.

Ond yr hyn sy’n fy synnu yw nad yw’r Picos de Europa ar y rhestr. Y mynyddoedd pigog uchel gyda’u hanifeiliaid a’u planhigion prin, y bobl sydd wedi byw a gweithio yno law yn llaw (fwy neu lai) â natur, y pontydd a’r heolydd cul a godwyd dros y canrifoedd mewn llefydd sydd yn awr yn ddiarffordd.

llwybr y Cares ffoto:cathasturias

Byddwn yn hoffi gweld y ddau yn cael eu ychwanegu i’r rhestr – ond byddwn yn rhoi’r Picos yn gyntaf.

 

 

 

 


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: