Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Chwefror 6, 2012

Pysgota Draenog

Dyfala beth yw pwnc llosg y cyfryngau yn Asturias heddiw. Na, nid yr etholiad, nid a fydd arweinydd newydd yn adennill y gymuned i’r sosialwyr. Nid achos y barnwr Balthasar Garzón a’r holl dystiolaeth annisgrifiadwy o amser y rhyfel ac wedyn. Nid hyd yn oed yr argyfwng economaidd a’r cyni cyffredinol.

Dim un o’r rhain. Hoff bwnc y sylwebwyr yw: sut y dylid pysgota/diogelu’r draenog môr. Nid draenogiad y môr, y pysgodyn sydd erbyn hyn yn cael ei ffermio a’i gynnig ar fwydlenni ledled Ewrop. Ond y creaduriaid yma:

Yr un enw, erizo del mar, sydd arnyn nhw yn Sbaeneg, ond yma yn Asturias mae wedi troi’n oriciu. Mae angen menig i’w trafod nhw, ond dim ond y bola, yr wyau bychain, sy’n cael eu bwyta – yn amrwd neu wedi eu coginio mewn dŵr berw am 20 eiliad.

Mae pris oricios wedi codi (galw mawr amdanyn nhw yn Siapan) a nawr mae pysgotwyr llawn-amser Asturias, nad oedd yn mwydro pen ryw lawer amdanyn nhw o’r blaen, yn eu gweld yn dod yn werth chweil ac eisiau rhan o’r farchnad. Oherwydd nid ar lein mae dala’r creadur. Yn yr Unol Daleithiau a llefydd eraill mae deifwyr yn eu hela â chyllyll, ond yma ni chaniateir dim ond eu casglu nhw yng ngwaelodion clogwyni, pan fydd y môr ar drai.

Fel y cocos, iawn pan fydd pobl leol yn mynd â sach yn eu tymor ac yn gwerthu’r rhai dros ben. Ond os bydd y bois sy’n dibynnu ar y môr i ennill bywoliaeth yn dechrau arni, faint fydd ar ôl?

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: