Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Chwefror 8, 2012

Ble mae’r Tapas Gorau?

Draenog môr, cig moch wedi ei drin mewn cant o ffyrdd, llysiau bychain twym neu oer, caws o bob math, danteithion bwyd môr fel llyswennod a chimychiaid: pob un am bris o dan €2.

Mae’n dymor y gystadleuaeth pinchos (tapas) yn Asturias, a 156 o farau wedi cofrestru eleni. Mae’n hen arfer cynnig rhyw fyrbryd i fynd gyda’r gwin neu’r seidr, a mewn llawer i far byddi di’n dal i gael y pinchos syml – darn bach o tortilla ar sgleisen o fara, cnau castan yn eu tymor neu gaws rownd y flwyddyn, am ddim. Byddai rhywun sy’n mynd mâs ar ôl gwaith, dyweder, tua 7 o’r gloch, yn cymryd dau neu dri o’r rheiny cyn mynd adref i gael bwyd.

Ond ymgyrch yw hwn i wella safon y pinchos, gyda’r bwriad o ddenu mwy o bobl leol ac ymwelwyr i’r barau. Fe fuom ni yn Oviedo’r llynedd (dim lluniau mae arna’i ofn) ac roedd y bwyd a gynigid yn flasus ac yn gain dros ben, wedi ei gyflwyno’n hyfryd. Yn anffodus nid oes bar lleol yn cymryd rhan eleni, fel y gwelir o’r map yma, y gellir ei wneud yn fwy wrth glico arno.

Un peth i gofio os byddi di’n teithio ffordd hyn: mae’r termau’n amrywio o un lle i’r llall, felly mae wastad werth gofyn beth yw maint y pinchos neu’r tapas. Mewn rhai llefydd maen nhw’n fwy tebyg i raciones – sef digon i un fel pryd ysgafn, digon i ddau neu dri fel tapas.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: