Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Chwefror 9, 2012

Garzón yn Euog: Pwy Arall?

Wel dyna ddiwedd ar yrfa un o farnwyr mwyaf pwysig Sbaen. Barnwr oedd yn gweithredu er mwyn cyfiawnder yn yr ystyr mwyaf eang posib. Heddiw fe gafwyd Balthasar GarzóGn yn euog o orchymyn gwrandawiadau cudd ar ddifynyddion yr achos Gurtel (llygredd cynllunio a chontractau cyhoeddus yn Valencia) . Fe fydd yn cael ei wahardd o’r Uchel Lys am 11eg mlynedd, ac oherwydd ei oedran nid yw’n debyg y bydd yn dychwelyd yno wedyn.

Hwn oedd y barnwr wnaeth ofyn am i Augusto Pinochet, cyn-unben Chile, gael ei gymryd i’r ddalfa yn ystod ymweliad å’r DU. Hwn hefyd yw’r barnwr sydd yn wynebu achos llys cyfredol am gynnal ymchwiliad i droseddau cyfnod rhyfel Sben a’r unbeniaeth wedyn.

Yr wythnos hon mae rhes o dystion un ar ôl y llall yn esbonio i’r llys sut y lladdwyd eu rhieni, neu mamgu a thadcu, gan filwyr neu ddilynwyr Franco. Eu pwynt nhw oedd hyn: nad oedd yn dderbyniol gofyn cwestiynau na chwilio am gyfiawnder am yr hyn a ddigwyddodd tan yn ddiweddar. Yn y blynyddoedd yn union wedi dychwelyd i ddemocratiaeth, roedd pawb yn osgoi siarad am y rhyfel a’r troseddau er budd y ddemocratiaeth newydd.

Mae Twitter a Facebook yn llawn o bobl yn cefnogi Garzón, ond hefyd rhai o’r adain dde sy’n chwerthin am ei ben e. Mae’r rhwyg a greodd y rhyfel eto’n bodoli – ymlaen i achos mab-yng-nghyfraith y brenin.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: