Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Chwefror 10, 2012

Pili-Palas y Picos

Mae hanner y mathau o pili-pala sydd i’w cael yn Sbaen – a chwarter holl mathau Ewrop – i’w gweld yn y Picos de Europa. Fel rhywun heb lawer o amynedd, fe wyddwn yn iawn bod yno llawer o rai gwahanol eu lliw a’u maint, ond doeddwn i erioed wedi ceisio gwneud rhestr o’r rhai yr oeddwn wedi eu gweld.

Yr un mwyaf prin, mae’n debyg, yw lopinga achine, brown y goedlan: rhaid cyfaddef nad wyf i erioed wedi dod ar ei draws, ond wedi ‘ny cerdded y mynyddoedd y byddwn ni fel arfer ac nid yn mynd drwy coedlannau’n aml iawn.

128 math o iâr fach yr haf, felly, a phedair gwaith y nifer hwnnw o wyfynnod. Mae rhai ohonyn nhw’n anferth ac yn hedfan yn araf, eraill yn bitw bitw a byth yn llonydd. Rhai du a gwyn, a rhai lliw oren fel papur losin. A hynny heb feddwl cyfri’r gweision neidr.

Bwriad awdurdodau Parc y Picos nawr yw dechrau cynllun diogelu’r creaduriaid hyfryd hyn, a hefyd cydweithredu gyda nifer o brifysgolion (un ohonynt yn Stafford) i astudio brown y goedlan yn fwy trylwyr.

 

Y tro nesaf ewn ni lan i’r Picos bydd rhaid cerdded llai – un diwrnod o leiaf – a gwylio mwy.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: