Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Chwefror 12, 2012

O’r Ardd: Dechrau Newydd

Er ein bod ni ymhell o gyrraedd dyddiad swyddogol dechrau’r gwanwyn (21ain o Fawrth yn Sbaen), mae llysiau’n dangos tyfiant glas. Dros y misoedd diwethaf, er enghraifft, ryn ni wedi hau ffa llydan bedair gwaith, nid am fod y llygod yn eu bwyta nhw, er bod hynnny’n wir hefyd, ond er mwyn ymestyn tymor un o fy hoff lysiau.

Mae’r rhain, aeth i fewn ddiwedd mis medi (y gynharach erioed inni eu hau nhw), bellach yn 80cm o daldra ac ambell i flodyn wedi ymddangos. Ond gan fod y tywydd wedi troi’n oerach o dipyn yn awr, fydda’i ddim yn disgwyl bwyta ffa tan y Pasg.

Aeth rhain i’r tir ym mis rhagfyr, ac mewn pridd trymach. Dodwyd tipyn o ludw (coed tân) i fewn cyn eu hau, ac wedyn. Ond beth sy’n cadw fi i fynd yn ystod y dyddiau (cymharol!) oer a gwlyb yw’r orennau.

Hon yw’r goeden orau: mae siwr o fod tua 8 oed nawr ac yn dod â mwy o orennau mandarin bob blwyddyn. Flynyddoedd yn ôl roedd pobl Asturias yn gallu gwerthu orennau a lemwns, yn eu hallforio mewn llongau i wledydd y gogledd: yn awr wrth gwrs mae’r cynhaeaf sitrws pwysig yn Andalucia.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: