Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Chwefror 15, 2012

Chwaraeon 1 – Gwyddoniaeth 0

Er gwaetha’r sefyllfa economaidd, mae pwyllgor Olimpaidd Sbaen wedi penderfynu cadw ymlaen â chynnig Madrid i fod yn lleoliad y Gemau Olimpaidd yn 2020. Roedd aelodau’r IU (Chwith Unedig) wedi gofyn am roi’r gorau i’r holl beth nawr, ond mae’r ddinas wedi cyflwyno’i phapurau at gyfer rownd gyntaf y penderfynu.  Mae Rhufain, ar y llaw arall, yn dweud nad oes modd croesawu’r gemau yno gyda’r problemau presennol.

Mor wahanol yw tynged gwyddonwyr Sbaen. Pan ddaeth Mariano Rajoy yn brif weinidog ddeufis yn ôl, fe newidiodd nifer o’r gweinyddiaethau, gan symud pynciau o un i’r llall a chael gwared â rhai’n gyfangwbl.  Fe ddaeth gwyddoniaeth yn rhan o Adran yr Economi.  Mewn erthygl yn y cylchgrawn Nature yrwythnos hon, mae’r astroffisegydd Amaya Moro-Martin yn dadlau mai hunan-laddiad yw hwn lle mae bwriad y llywodraeth i gael ‘economi’r gwybodaethau’ yn y cwestiwn. Nid yn unig mae ymchwil gwyddonol wedi ei rwygo o ddwylo’r adran addysg, ond does dim mwy o ymchwilwyr yn cael eu penodi gan y wladwriaeth. Yn ôl yr erthygl, mae sector dechnolegol Sbaen yn rhy fach i gyflogi mwy na dyrnaid o ymchwilwyr, felly bydd y bobl deallus hyn, sydd wedi derbyn eu haddysg gan wladwriaeth Sbaen, yn gorfod mudo i weithio mewn ac er budd gwledydd eraill.

A hyn i gyd pan mae gwario Sbaen ar ymchwil gwyddonol o dan 1.4%, yn lle’r 2% a ddisgwylir yn ôl safonau Ewrop.  Ond fe allwn ni i gyd edrych ymlaen at y gemau!


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: