Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Chwefror 17, 2012

Dyfodol Gwlad y Basg – Eto

Adroddiad yn El País heddiw am araith ddiddorol gan un o aelodau senedd Ewrop dros Wlad y Basg. Cynrychiolydd y PNV (y Blaid Genedlaethol Basgaidd) yw Izaskun Bilbao, ac roedd yn siarad mewn fforwm a drefnwyd gan Nueva Economía, corff annibynnol sy’n gweithredu ar draws Sbaen i gynnal trafodaethau ar faterion economaidd.

Ei phwnc oedd, yn gyffredinol, perthynas Gwlad y Basg â sefydliadau Ewrop. Yn fanwl, roedd hi’n gofyn am un cam pwysig gan Gomisiwn Ewrop: ei fod yn chwarae rhan yn y broses o gyrraedd heddwch yng Ngwlad y Basg ar ôl ymgyrch hir a threisiol ETA. Fyddai hynny ddim wrth fodd llywodraeth Sbaen, sydd wedi dweud erioed taw rhywbeth mewnol yw e. Ac i’r perwyl yna fe aeth hi ymhellach ar hyd y trywydd, gan ystyried perthynas economaidd Euskadi a’r UE.

Yn ei barn hi, mae’r Basgwyr yn cael cam oherwydd eu cysylltiad â’r delwedd gwael sydd gan Sbaen gyfan fel gwlad ddi-waith sy’n methu gwella. Soniodd am y mentrau cydweithredol Basgaidd fel ‘cyfeirbwynt ar raddfa gyfandirol’ yn ogystal â’r gwaith sy’n cael ei wneud ym maes y dechnoleg newydd. ‘Dim ond drwy ddatblygiadau felly mae trechu diweithdra’, meddai.

Ac roedd yn edrych tua’r Alban hefyd, yn wleidyddol yn hytrach nag yn economaidd. Dymunai gweld refferendwm ar annibyniaeth i’r Basgwyr: cam wrth gam, meddai, y byddai pobl Sbaen yn deall bod hynny’n bosib ac yn derbyn ei fod yn iawn.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: