Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Chwefror 18, 2012

Moliannwn

Roeddwn yn gallu gwynto’r gwanwyn pan ddihunais i. Rhyw newid bach yn yr aer, fel petai pethau byw eraill ar fin deffro. Does dim llawer i’w weld eto; pan es i am dro i lawr ar hyd glan yr afon roedd ambell i lygad Ebrill a llu o grafanc-yr-arth (lle na droediodd arth ers blynyddoedd lawer.) Ond rwy’n siŵr y bydd llwybr yr afon yn fan ardderchog i chwilio am blanhigion: mae’n gwm bach heulog wedi ei ddiogelu o wyntoedd y gogledd, a does neb wedi bod yno ers oesoedd.

Mantell paun ffoto:cathasturias

 

Ond mae hon yn arwydd o newid tymor: fe welais i hi’n hedfan, ac yna glaniodd ar y garreg a thorheulo am funudau. Mae’n debyg taw sychu’i hadennydd oedd y fantell paun, newydd ddod mâs o’i chrysalis.

Yn wir, roedd hi’n ddiwrnod perffaith am dro bach – digon o ddŵr yn yr afon ar ôl glaw’r wythnos ddiwethaf, digon o haul a dim ond awel fach o wynt. Wnaeth fy ysbrydoli i fynd yn ôl i’r ardd a chario ymlaen â’r gwaith o docio (coeden eirin a datura) a glanhau (mwsogl o’r pafin). Chwynnu rhan o’r lleuarth nesaf.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: