Dewis anodd heddiw: dim ond amser gyda fi ysgrifennu un cofnod a dwy stori werth eu hadrodd. Ond gan fy mod wedi ymdrin â’r Basgwyr yn ddiweddar, wna’i adael hanes y gytundeb rhwng pleidiau mawr Sbaen ar ddatblygiadau yno, ac edrych ar y gwrthdystiadau yn Valencia.
Ddydd Iau diwethaf, fe gafodd nifer o brotestwyr yn erbyn toriadau addysg y llywodraeth gymunedol Valenciana eu harestio, rhai ohonyn nhw o dan 18 oed. Ers hynny, mae’r gwrthdystiadau wedi mynd yn fwy bob dydd, a mwy o bobl wedi cael mynd i’r ddalfa. Heno, mae miloedd ar y stryd yng nghanol Valencia, yn ceisio nesau at bencadlys y llywodraeth. Nid myfyrwyr ysgolion uwchradd a phrifysgolion yn unig, ond rhieni, athrawon a darlithwyr, a chefnogwyr cyffredinol. Mae nifer o fyfyrwyr wedi eu cloi eu hunain yn un o adeiladau’r brifysgol. Ac mae ‘na brotest arall i’w cefnogi yn Madrid.
Pam fod pethau wedi chwyddo fel hyn? Am fod pennaeth heddlu Valencia wedi disgrifio’r myfyrwyr oedd yn gwrthdystio yn y lle cyntaf fel ‘y gelyn’. Daeth hwnnw fel sioc i’r bobl ifainc, sydd wedi tyfu lan mewn gwlad lle roedd yr heddlu i fod yn rhywbeth da. Ond i’r genhedlaeth hŷn, sy’n cofio heddlu, a heddlu cudd, dyddiau Franco roedd hi’n sarhad na ellid ei anwybyddu. Un o sloganau’r dydd yw ‘libros contra porras‘ ‘Llyfrau yn erbyn Pastynau’. Ac wrth fod protestwyr newydd yn cyrraedd y strydoedd, mae mwy o heddlu’n dod o ddinasoedd eraill.
Mae pobl fan hyn wedi edrych ar luniau protestiadau enfawr yng nghanol Athen. Mae’n rhywbeth sy’n teimlo’n agos iawn oherwydd sefyllfa economaidd Sbaen o fewn yr ewro. Ond yn fwy na hynny, mae’n taro tant gyda’r miloedd lawer nad ydynt yn ymddiried dim mwy yn yr awdurdodau (llywodraeth, heddlu, byddin?). Mae pobl yn gweld y smonach a wnaed gan yr awdurdodau ar draws Ewrop ac yn barod i wneud rhywbeth amdano.
Gadael Ymateb