Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Chwefror 22, 2012

Derbyn Diwedd ETA

Roeddwn i wedi disgwyl cael mwy heddiw am gytundeb gwleidyddion Sbaen ar Wlad y Basg, ond does na ddim, felly af i dros yr hyn ddigwyddodd ddoe – yr unig beth ddaeth heddiw oedd y bleidlais ar lawr y Senedd. Mae’r cyfryngau Basgaidd yn ei alw’n gytundeb na welwyd mo’i fath o’r blaen. Holl bleidiau Sbaen gyda’i gilydd yn addo gweithio gyda’i gilydd i sicrhau dyfodol heddychlon i Wlad y Basg. Pob plsid ond dwy, hynny yw: Amaiur sy’n cynrychiolwyr cenedlaetholwyr adain chwith y bobl Basg, ac UPyD, oedd am wahardd Amaiur.

Mae digon ynddo wrth gwrs ynglŷn â ‘maeddu terfysgwyr’ a ‘diwedd ETA am byth’, ond mae e hefyd yn gwireddu statws Amaiur yn y Senedd ac yng ngolwg y PP sy’n rhedeg Sbaen – rhywbeth hollol newydd iddyn nhw, sydd wastad wedi dibrisio pob symudiad o ochr ETA a’r cenedlaetholwyr. Yn awr maen nhw’n derbyn diwedd ETA. Does dim llawer o fanylion eto am beth fydd llywodraeth Sbaen yn gwneud am y peth, ond fel sumbol mae’r gytundeb pwysig. Un peth y mae llywodrath Gwlad y Basg yn galw amdano ‘yn fuan’ yw lleihau nifer yr heddlu canolog/ Sbeinig sydd yn gweithredu o fewn ei ffiniau, gan fod perygl ETA wedi diflannu.

 


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: