Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Chwefror 23, 2012

Claddu’r Pysgodyn

Dyma ni nawr yn ail ddiwrnod y Grawys – er nad oes llawer o bobl fan hyn yn ymprydio rhag bwyd da na gwinoedd y dyddiau hyn. Ganrifoedd yn ôl (ganrif hyd yn oed) pan oedd pobl yn cymryd rheolau’r eglwys o ddifri, roedd bwyta cig a bwydydd moethus yn waharddedig, a dyna sut ddechreuodd y Carnifal. Ar ddydd Mawrth Ynyd, ac am ddiwrnod neu ddau cyn hynny, fe fyddai pob tref yn fiesta, a’r trigolion yn bwyta ac yn yfed ac yn dawnsio gymaint a fedren. Mae olion yr arfer i’w gweld yn ein crempog ni, ac mae crempog yn rhan o’r fwydlen draddodiadol fan hyn yn Asturias hefyd. Bydd yn cael ei fwyta ar ôl plataid go dda o pote Antroxu – fel cawl ond gyda chig moch yn lle cig oen. Mae’n dod i’r ford mewn dwy fowlen – un i’r hylif a’r llysiau, y llall i’r darnau o gig (clustiau, unrhywun? hyfryd!).

Gair Astwreg yw antroxu sy’n dod o’r Lladin introit , mynd i fewn i dymor y Grawys, ond mae’r ŵyl ei hun yn mynd yn ôl ymhell cyn dyfodiad yr eglwys i ŵyl baganaidd i lanhau trefi ar ddiwedd y gaeaf. Yn debyg felly i Lupercalia y Rhufeiniaid ac atsain ohono yn y ffordd y byddwn ni’n glanhau tŷ ddechrau’r gwanwyn. Ond mae rhai o’r traddodiadau sydd wedi ymlynu wrth yr hen ŵyl yn rhyfedd â dweud y lleiaf. Nos Fawrth fe fuom ni yng nghanol Ribadesella i weld sardîn yn sefyll ei brawf o flaen ‘ustusiaid’. Lot o wneud sbri am y maer a’i chynlluniau a’r cyni economaidd, ac yna cerdded mewn gorymdaith angladdol i’r cei. Yna fe aeth y sardîn, yn ei dun ar ffurf arch, i fewn i’r aber – ar dân. Pam sardîn? Neb yn rhy siŵr.

entierro sardina Ribadesella


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: