Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Chwefror 25, 2012

Dug mewn Trafferth

Dechreuad hir a manwl i ddug Palma o flaen barnwyr Ynysoedd y Baleares heddiw. O 10.00 tan 14.00, ac wedyn o 15.30 tan nawr, mae Iñaki Urdangarin wedi bod yn ystafell y llys yn ateb cwestiynau am ei fusnesau. Diddorol taw busnesau yw’r gair sy’n cael ei ddefnyddio nawr, achos o’r blaen sôn am sefydliadau di-elw yr oedd pawb. Dyw’r wasg ddim yn cael mynd i fewn i’r gwrandawiad (does na ddim cyhuddiad wedi ei ddwyn yn erbyn y dug eto) ond mae ambell i gyfreithiwr wedi bod yn siarad â gohebwyr wrth fynd a dod.

Dau beth newydd a gawsom wybod heddiw:

fe ofynnodd brenin Sbaen i’w fab-yng-nghyfraith ym mis Mawrth 2006 ‘roi’r gorau i’w fusnesau’, ac

mae’r barnwr yn awr yn ymchwilio i ail rwydwaith o gwmniau yn perthyn i’r dug, rhai tramor y tro hwn.

A dyma ychydig o ddanteithion bach eraill sydd wedi ffiltro drwy’r cyfreithwyr a’r swyddogion oedd yno: mae’r dug (wrth gwrs) yn gwadu ei fod e wedi cael unrhyw beth i’w wneud â symud arian o gyfrifon y cwmniau i’w gyfrifon teuluol, ac yn beio cyfarwyddwr arall. Mae e wedi cyfaddef ei fod e wedi rhoi enwau ei blant (yr hynaf yn 13 oed yn awr) fel perchnogion un o’r we o fusnesau, yn ogystal â’i wraig.

Oherwydd ffurf yr holi (mae’r diffynydd yn cael ateb ‘ie’ neu ‘nage’ heb esbonio ymhellach) dydyn ni ddim yn gwybod paham yr oedd y brenin yn becso, na chwaith yn union beth yw’r cwmniau newydd sydd dan sylw.

Ar hyn o bryd mae’r gwrandawiad yn parhau, ond mae’r barnwr wedi dweud ei fod e am gwblhau heno yn lle mynd ymlaen tan ddydd Sul. Mae’r rhan fwyaf o’r cannoedd o brotestwyr yn erbyn y frenhiniaeth oedd yno’r bore ma wedi mynd gartref, ond maen nhw’n cynrychioli barn sy’n lledaenu o fewn y boblogaeth Sbeinig.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: