Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Chwefror 26, 2012

‘Nid y Fi Wnaeth’

Rwy’n mynd i aros gyda hanes dug Palma heddiw eto. Penwythnos gwael gafodd e mae’n siŵr, yn gorfod teithio nôl o’r UDA lle mae’n byw a treulio deuddydd cyfan yn ateb cwestiynau gan farnwr a chyfreithwyr eraill. Yr esgusodion arferol a gafwyd gan fab-yng-nghyfraith brenin Sbaen: nid fi oedd yn gyfrifol (am symudiadau arian oedd yn y pen draw yn cyrraedd ei goffrau fe); dwi ddim yn cofio (am lu o bethau – rhai ohonyn nhw gymaint â 6 mlynedd yn ôl!); fy mhartner oedd ar fai (yn ôl Iñaki Urdangarin ei gyd-gyfarwyddwr, Diego Torres oedd yn danfon arian dramor i ‘baradwysau di-dreth’). Yn ôl y barnwr, roedd un o’r rhwydweithiau a ddefnyddiwyd yn mynd o swyddfa’r dug yn Barcelona i Lundain ac oddi yno i Belize a Panama.

Ond fe fu’n rhaid iddo gyfaddef bod rhai pethau’n wir: yn bennaf, ei fod wedi gweithio gyda Diego Torres mewn busnesau eraill (ar wahan i’r un gwreiddiol, Sefydliad Noos) ar ôl i’r brenin ofyn iddo adael pob busnes yn ymwneud â’r sector cyhoeddus.

Ac fe gafodd rybudd gan y barnwr y gallai ei atebion ‘gochelgar’ ynglŷn â rhan ei wraig, y dywysoges Cristina, oedd yn berchen at hanner un o gwmniau’r dug, arwain at ei gwysio hi i roi tystiolaeth. Fe fyddai hynny’n fwy o lawer o ergyd i’r tŷ brenhinol, sydd yn colli cefnogaeth yn Sbaen bob blwyddyn.

Lan i’r barnwr Jose Castro nawr i benderfynu beth fydd y cam nesaf: mae’r achos yn siŵr o aros ar y tudalennau blaen am fisoedd eto.

 

 

 


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: