Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Chwefror 27, 2012

Di-Euog ond Wedi ei Wahardd

A minnau wedi meddwl cofnodi ychydig o waith y tir yn lle hanesion llys a gwleidyddiaeth, dyma canlyniad yr achos yn  erbyn y barnwr Baltasar Garzón yn cael ei gyhoeddi. Chwi gofiwch ei fod e eisoes wedi ei gael yn euog o wrando’n anghyfreithlon ar sgyrsiau diffynyddion a’u cyfreithwyr yn ystod achos yn ymwneud â llygredd ac arian y cyhoedd, achos Gurtel. Am hynny fe gafodd ei wahardd o’i yrfa yn yr uchel lys am 11 mlynedd.

Heddiw fe’i gafwyd yn ddi-euog mewn achos lle roedd buddiannau adain dde eithaf wedi ceisio ei gosbi fe am ymchwilio i droseddau a gyflawnwyd dros 60 mlynedd yn ôl, yn ystod ac ar ôl rhyfel Sbaen, gan ddilynwyr yr unben Franco. Daeth plant ac wyrion nifer o’r bobl a laddwyd i’r uchel lys i siarad dros y barnwr Garzón, ac yn y diwedd penderfynwyd nad oedd wedi torri deddf wrth ddilyn yr achosion hyn.

Ond mae’n rhy hwyr. Am fod canlyniad Gurtel wedi dod yn gyntaf, nid yw Baltasar Garzón yn gallu cydio yn achos yr hen droseddau – ac o’r hyn yr wyf i wedi ei ddarllen, does na ddim un barnwr arall yn debyg o wneud hynny.  Mae Human Rights Watch, sydd wedi bod yn dilyn yr achosion, o’r farn y dylai Sbaen ddiddymu deddf amnest 1977 yn gyfangwbl. Amcan y ddeddf oedd ei gwneud hi’n haws symud ymlaen at ddemocratiaeth, ond erbyn hyn mae wedi gadael miloedd o Sbaenwyr yn teimlo nad ydyn nhw wedi cael cyfiawnder.

I´r ardd yfory, efallai.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: