Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mawrth 1, 2012

Cynllun Cerdded

Yfory yr ydym ni am fynd lan i’r mynyddoedd, i lynnoedd enwog y Picos de Europa, i weld a oes yno olwg o’r gwanwyn eto. Dim ond awr i ffwrdd mewn car, ac mewn llinell syth llai na 50km i’r de, ond mae’r tywydd yn gallu bod yn wahanol iawn. Eira, wrth gwrs, ond yn fwy na hynny effaith niwl neu wynt. Ar yr arfordir ein tro ni yw hi’r wythnos yma i gael i gwynt – gobeithio nad oes yno ormod o niwl dros y mynyddoedd. Dyma un o’r gwefannau y byddwn yn eu defnyddio wrth baratoi diwrnod o gerdded: webcam Fuente De . Mae ar ochr ddeheuol y Picos ond yn uchel – 1800m – a heno mae’n edrych yn iawn. Un arall sy’n dda yw meteopicos – er taw at y sgiwyr y mae wedi ei anelu, mae yno drwy’r flwyddyn. Ac yn anffodus, yn darogan glaw yfory.

Gobeithio bod pawb wedi/yn mwynhau dathlu Dydd Gŵyl Dewi yn ôl eu dewis. Hau hadau perlysiau oedd y dasg fan hyn, persli a choriander, gorthyfail (chervil) a llysiau’r gwewyr. Mewn blwch hadau maen nhw ar hyn o bryd. Byddan nhw’n cael eistedd ar lawr twym y gegin am ychydig ddyddiau ac yn i’r tŷ gwydr gan obeithio na chawn ni dywydd oer eto.

A dyma syniad arall os oes gyda ti wres dan y llawr: codi toes bara, neu yn fy achos i heddiw, pizza. Iawn, sdim plant bach nag anifeiliaid anwes yn y tŷ , felly dim llawer o berygl y byddai’n cael ei ddymchwel, ac fe lwyddodd fel dim byd o’r blaen. Ac rwyf i wedi sôn o’r blaen rwy’n siŵr mor gloi y mae’r llawr yn sychu ar ôl ei olchi.

Meddwl am yfory eto: rhaid inni fynd i’r farchnad ta p’un: fe allwn ni benderfynu wedyn a yw hi’n werth mynd ymlaen. Ond bod popeth yn barod yng nghefn y fan…

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: