Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mawrth 3, 2012

Llynnoedd y Picos

 

Dau lyn yn ymyl ei gilydd yn rhan orllewinol y Picos de Europa yn Asturias yw Enol ac Ercina, wedi eu ffurfio pan ddiflannodd y rhewlifoedd ddiwedd Oes yr Iâ. O’r bryncyn sydd rhyngddyn nhw fe allech weld y ddau – ond dim ond o’r awyr y byddech chi’n gweld y ddau ‘run pryd. Yn yr haf bydd y lle dan ei sang: y llynnoedd yw prif atyniad y Picos i filoedd ar filoedd o ymwelwyr. Ond ddoe roedd llai na hanner dwsin o geir yno.

Llyn Ercina yw hwn, yn edrych tua’r de-orllewin, gyda rhesi o fynyddoedd eto yn y cefndir.

Doeddwn i erioed wedi bod lan ‘na mor gynnar yn y flwyddyn, ac eisiau gweld pa flodau oedd wedi agor. Rhaid dweud bod hwn wedi bod yn aeaf anarferol o sych, felly roedd yr eira eisoes wedi dechrau meirioli.

 

Dim ond dau o’r rhain welsom ni: lili’r brithyll yw e. Ac os oes unrhyw un yn gallu esbonio imi sut yn y byd y cafodd e’r enw byddwn i’n falch iawn!

lili'r brithyll ffoto:cathasturias

Ond roedd digonedd o’r rhain yn barod:

narcissus asturiensis

Planhigion bychain ydyn nhw, fydd yn ystod Ebrill a Mai yn ffurfio carpedi ar laswellt y mynyddoedd uchel. Mae’r blodyn llai nag 1cm o led a’r holl beth ond yn 10cm o hyd. Rwy’n credu taw ffawydd yw’r coed yn y cefndir, ond lot llai nag arfer oherwydd yr uchelder – 1100m a mwy. Lawr fan hyn dim ond 45m yn uwch na’r môr, mae’r cennin Pedr ar orffen.

 

 

 


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: