Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mawrth 6, 2012

O’r Gegin: Teisen Cnau Ffrengig

Ddeuddydd yn ôl ffindes i fag o wyau ar ford y teras – 2 ddwsin i gyd, yn anrheg gan gymydog sydd yn cadw ffowls. Penderfynais i wneud teisen i ddiolch iddo, wedyn wrth gwrs roedd yn rhaid imi wneud dwy er mwyn inni gael un hefyd. Nid ar chwarae bach y mae agor 400g o gnau ffrengig!

Fe gymerodd e dros hanner awr, o gofio taw 400g yw beth sydd eisiau: 1.2k o gnau o’r fasged. Mae angen tipyn o nerth braich hefyd, achos fel y bêl rygbi yn croesi’r llinell wen, rhaid i’r gneuen hirgron fod o dan reolaeth bob amser, rhag ofn iddi falu’n rhacs. Mae’r masglau’n mynd i’r ffwrn goed; maen nhw’n dda iawn ar gyfer cadw tân ddiwedd y nos pan dych chi ddim am roi darn arall o goed arno.

Daw’r rysait o Wlad y Baasg, mâs o lyfr Maria José Sevilla, Spain on a Plate, a gyhoeddwyd ugain mlynedd yn ôl. Dod y ffwrn ar 190C.  Mae angen

100g menyn, 200g siwgr caster, 4-5 wy wedi eu gwahanu, 100g can, 1 llwy de powdwr pobi, 2 lwy ford Grand Marnier neu wirod ffrwyth arall, a 200g o gnau Ffrengig. ‘Lightly crushed’ meddai Maria José: rwy’n eu dodi nhw mewn bag plastig a chael y morthwyl neu rolbren atyn nhw.

Ti’n gweithio’r deisen yn y ffordd arferol, chwipio menyn a siwgr, ychwanegu melyn yr wyau, y can a’r cnau a’r gwirod.

Ond wedyn ti’n chwipio gwyn yr wyau nes eu bod yn sefyll lan, ac yn eu plygu nhw i fewn i’r gymysgedd. Awr yn y ffwrn sydd eisiau. Bydd y darnau o gnau wedi eu gwasgaru drwyddi, ond yn dal yn ddigon mawr i roi ansawdd gwahanol i’r deisen.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: