Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mawrth 7, 2012

Real Academi v Byd Real

Rwy’n mynd yn ôl at y ddadl ynglŷn â’r iaith – yr iaith Sbaeneg – achos mae erthygl yr academwyr real wedi cynnau tân byw. Yr hyn mae’n dangos yw pa mor bwysig yw iaith i’w siaradwyr, gymaint y mae’n rhan o’n hunaniaeth ac adeiladwaith ein bywydau. I ddechrau, dwy ochr oedd i’r ddadl: y rhai oedd yn ceisio gwthio’r Sbaeneg i gyfeiriad lle byddai bodolaeth menywod yn fwy amlwg, yn lle cael eu ‘cynnwys’ o fewn y gwrywaidd, a’r Academi sy’n ceisio amddiffyn yr hen ffordd draddodiadol o fynegi statws pobl.

Un o’r problemau yw nad oes gan Sbaeneg air neilltuol am, e.e. rhieni. Rhaid dweud padres, h.y. tadau, ond hefyd yn golygu rhieni. Mae hyd yn oed y frenhines yn anweladwy os bydd yn ymddangos gyda’i gŵr: los reyes ydyn nhw, nid rey y reina. Ac eto, mae’r gair persona, un person, yn fenywaidd ta pwy wyt ti’n sôn amdan. (Enghraifft tebyg yn y Gymraeg efallai, colli’r amdano/amdani).

Beth sy’n digwydd yw bod corff yr iaith gyda’i rheolau am genedl geiriau yn bwrw yn erbyn fel mae pobl yn byw nawr, a sut maen nhw eisiau siarad a mynegi’u hunain nawr. Mae sawl un wedi ymateb i’r erthygl gwreiddiol drwy ofyn pam nad oedd y Real Academi wedi cymryd yr awennau lawer cynt ac awgrymu sut y gellid gwella pethau; eraill yn wfftio’r cyfan a dweud nad oes ots am y geiriau, nad oes neb yn dioddef o’u herwydd.

Yn ôl un o’r erthyglau diweddaraf yn El País, rownd arall yw hwn mewn dadl a ddechreuwyd gan yr awdur Gabriel Garcia Marquez nôl ym 1997, pan alwodd am adnewyddu sillafu Sbaeneg, ac yn enwedig am gael gwared o lawer o’r acenion (sy’n dangos sillafau acennog eithriadol). Ac mae gen i syniad yr eith hi mlaen am 15 mlynedd eto os nad mwy.

 

 


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: