Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mawrth 10, 2012

Pigion Penwythnos

Yn ôl y polau piniwn diweddaraf, y PSOE (sosialwyr) sy’n debyg o ennill yn etholiadau Asturias bythefnos i ‘fory. Disgwylir y byddai’n rhaid i’r blaid ddod i gytundeb gyda’r IU (comiwnyddion) er mwyn ffurfio llywodraeth. Y PSOE oedd mewn grym tan y llynedd pan enillodd plaid personol cyn-weinidog PP (ceidwadol) Cascos. Ond heb fwyafrif llwyr, methiant fu ei ymdrech i gael y pleidiau eraill i gytuno i’w gyllideb, a dyna pam yr ydym yn cael etholiadau mor fuan.

Mae rhyw ddiawl dwl difeddwl wedi rhyddhau crwban dŵr o Fflorida yn yr Unol Daleithiau yn Llyn Ercina, dros 1000m lan yn y Picos de Europa, parc cenedlaethol a lle o dan reolau diogelu cryf iawn. Mae’r creadur wedi bod yno ers y gwanwyn diwethaf, a hyd yn hyn dyw’r wardeniaid ddim wedi llwyddo i’w ddala. Nawr gyda’r meirioli mae’r helfa wedi dechrau eto: os bydd e wedi goroesi’r gaeaf, fydd e ddim o gwmpas am hir achos yn lle ceisio’i ddal maen nhw am ei saethu.

Aros yn y Picos, lle mae’r tair cymuned sy’n rhedeg y Parc (Asturias, Cantábria a León) wedi penderfynu dala nifer o fleiddiaid yn fyw mewn sawl ardal yng nghanol ac ar odre’r parc. Y syniad yw dodi radio-trosgwlyddwyr amdanyn nhw er mwyn cael mwy o wybodaeth am sut maen nhw’n symud o gwmpas. Hydref diwethaf bu cwynion gan ffermwyr yn ardal y Sierra del Cuera, rhwng y Picos a’r môr, bod bleiddiaid yn teithio drwy’u tiroedd nhw ac yn lladd da byw.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: