Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mawrth 11, 2012

Hawliau’r Gweithwyr

Heddiw eto mae cannoedd o filoedd o bobl wedi gorymdeithio drwy strydoedd dinasoedd mwyaf Sbaen yn galw ar y llywodraeth i ailfeddwl ynglŷn â’u newidiadau i hawliau gweithwyr. Yn Gijon roedden nhw’n 80,000, mewn talaith lle mae nifer y diwaith bron â chyrraedd 100,000 – mâs o boblogaeth o filiwn.

Byddai’r newidiadau arfaethedig yn ei gwneud yn haws – ac yn rhatach – i gwmniau ddiswyddo gweithwyr, ac yn fwy anodd i weithwyr herio penderfyniadau tebyg. Byddai cynghorau gwaith, lle mae cynrychiolwyr undebol yn trafod datblygiadau gyda’r cyflogwyr, yn colli peth o’u grym.

Cred yr undebau yw y bydd mwy o bobl yn ddiwaith yn sgîl y ddeddf newydd; dywed y llywodraeth , i’r gwrthwyneb, y bydd swyddi’n cael eu creu, ond mae’n anodd gweld sut y byddai hynny’n digwydd o dan yr amodau economaidd presennol. Yn barod mae pobl ifainc yn cwyno bod cyflogwyr yn cynnig tâl hyd yn oed yn llai nag o’r blaen: €800 y mis yn lle €1000, ac yn gofyn ddyn nhw weithio fwy o amser.

Maen nhw’n cyfeirio at y Ffindir, a’r ffordd y mae deddfau llafur yno yn cael eu gwella o safbwynt hawliau’r gweithwyr. Cyn diwedd y mis bydd dau brawf o faint o bobl sy’n cytuno â’r gwrthdystwyr: etholiadau yn Asturias ac Andalucia ar y 25ain, a streic cyffredinol ar draws Sbaen ar y 29ain.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: