Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mawrth 12, 2012

20% i Athrawon!

Mae athrawon yr Ariannin wedi cyhoeddi cynlluniau am streic gyffredinol ar ôl gwrthod cynnig y Weinyddiaeth Addysg o godiad cyflog o 20%. Do, rwyt ti wedi darllen hwwnw’n gywir. 20%. Maen nhw’n gofyn am godiad o 23% ar ôl cyfnod o dŵf economaidd ar draws y wlad dros y blynyddoedd diwethaf.

Ond maen nhw wedi dewis y foment anghywir, achos mae’r tŵf hwnnw ar ben, neu o leiaf wedi arafu’n ddifrifol. Disgwylir y bydd llywodraeth Cristina Kirchner yn gorfod rhoi’r gorau i’r polisi o gdw prisiau trydan, nwy ac olew yn isel a gadael i’r fachnad i bennu’r prisiau. Y broblem i’r athrawon yw taw nhw sy’n dod yn gyntaf yn y ‘rownd’ o drafodaethau ar godi cyflog.

Ofn y llywodraeth yw y bydd pob undeb arall yn chwilio am rywbeth tebyg os bydd yr athrawon yn ennill, ac felly mae Kirchner wedi mynd i’r gad yn eu herbyn drwy søn am yr oriau byr a’r gwyliau hir.

 


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: