Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mawrth 13, 2012

Colledion Gêm Sbaen

Anodd, os nad amhosib, gorbrisio pwysigrwydd pêl-droed yn Sbaen. Mae ‘na chwaraeon eraill fel pêl-fasged a seiclo sy’n denu mliynau o ddilynwyr, ond os ei di fewn i far pêl-droed fydd testun sgwrs y dynion yno. Hyd yn oed yma yn Asturias, lle mae tîm Sporting Gijón lan a lawr rhwng yr adran gyntaf a’r ail o un flwyddyn i’r llall bron, mae’r diddordeb yr un mor dwys. (Mae’n edrych yn debyg taw disgyn bydd tynged Sporting eleni.)

Mae’r rhan fwyaf o Sbaenwyr yn cefnogi dau dîm: yr un lleol, a naill ai Real Madrid neu Barcelona. Ac a dweud y gwir mae’r ddau dîm hwnnw mâs mewn rhyw gynghrair personol uwchddaear. Mae pob gêm rhyngddynt yn cael ei alw’n ‘glasur’ er nad ydyn nhw i gyd yn cyrraedd y safon hwnnw o bell ffordd. Ond o leiaf fe allwn ni fod yn siŵr eu bod nhw’n gwneud elw. Heddiw mae senedd Sbaen wedi clywed faint o ddyled sydd ar y clybiau’n gyffredinol (dim enwau wedi eu rhoi) i’r llywodraeth mewn gwahanol drethi.

€752 miliwn ddechrau Chwefror eleni. €145 miliwn yn fwy nag ar yr un amser bedair blynedd yn ôl, medd yr IU (comiwnyddion) sydd wedi bod yn gofyn y cwestiynau yma. Eu cwyn nhw yw bod pobl cyffredin yn cael eu herlid am fod arnyn nhw arian i’r swyddfa dreth neu’r banc neu’r cwmni morgais, a llawer wedi colli cartref o’r herwydd. Mae o leiaf dau glwb, Real Betis a Racing Santander, eisoes wedi gorfod galw’r gweinyddwyr i fewn i geisio cadw i fynd, ond hyd y gwela’i does yr un wedi gwynebu achos am beidio â thalu trethi.

Yn ystod y cyni economaidd, pa mor bwysig yw pêl-droed? Ydy e’n werth cadw timau i fynd er mwyn y boblogaeth (syrcas y Rhufeiniaid), ac felly atal gwrthdystio a chwyldro? Neu a ddylai pawb dderbyn yr un driniaeth, a thalu’r un dreth, a dirwyon?

 


Responses

  1. Tydi Barca na Real Madrid yn gwneud elw chwaith. Wel, efallai bod nhw yn gwneud elw, ond unwaith mae’r symiau hurt maen nhw dalu am chwaraweyr yn cael eu ffoctora i mewn, mae’n golled.

    Yn 2010 er enghraifft, gwnaeth Barca golled o 77m ewro, ac roedd eu dyled yn 442m ewro. Ac ers hynny maen nhw wedi gwario degau o filiynnau ar chwaraewyr newydd.

    Mae’n debyg bod Real yn gwneud yn well, ac wedi llwyddo i ostwng eu dyled o 296m yn 2009 i 245m yn 2010 ac i 170m ewro yn 2011.

    Yn ol yn 2001, roedd gan Real ddyledion o 270m ewro, ond yn ffodus iawn, dyma cyngor y ddinas yn prynu eu maes hyfforddi am 447m ewro! Fe gliriodd hyn eu dyledion au galluogi i wario fel ffyliaid gyda’r gweddill. Ond eto, maen nhw wedi mynd i ddyled.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: