Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mawrth 14, 2012

Diogelu’r Clogwyni

‘Ma ni off ‘to. Rwy’n gwybod fy mod i wedi ysgrifennu sawl cofnod am bufones Llames de Pría dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Yma mae’r mordyllau yng ngharreg galch y clogwyni yn chwistrellu dŵr y môr hyd at 50m i’r awyr – yn dibynnu ar y gwynt, y llanw, a stâd y môr. O’r blaen, trigolion y pentrefi lleol, neu, yn yr haf, ymwelwyr oedd yn aros yn lleol, fyddai’n dod i’w gweld nhw. Ond gydag ymlediad y cyfryngau cymdeithasol electroneg, mae lluniau a fideos o bufones cryf yn cyrraedd miloedd o fewn dim o amser: cyn diwedd y dydd byddan nhw yno yn eu ceir.

Dyma’r maes parcio wnaethpwyd gan gyngor Llanes (sy’n cynnwys pentref Llames – clir i bawb?) yn 2004. Mae’n hollol anghyfreithlon yn ôl cymdeithas trigolion y pentref, ac yn awr maen nhw’n dweud bod cynllun y cyngor yn mynd hyd yn oed yn bellach. Does dim datblygu fel hyn i fod ar y clogwyni, dim ond gweithredoedd amaethyddol, ond hyd yn ddiweddar doedd neb yn cymryd sylw o hynny. Yn awr mae pawb yn gytûn: mae angen rheoli mynediad cerbydau i’r llecyn hwn. Ond mae’r cyngor, yn ôl y trigolion, am wneud hynny drwy gael maes parcio mwy ar y clogwyni, lle maen nhw eisiau gweld lle parcio yn y pentref – gydag eithriadau anabledd.

Ar ein hochr ni i’r afon, mae llywodraeth Asturias o’r diwedd wedi dwyn achos swyddogol yn erbyn y cwmni a gaeodd i fewn rhan o’r clogwyni â wal gerrig, gan gau hefyd hen lwybr i lawr i’r traeth. Nhw hefyd fydd yn penderfynu a fydd cyngor Llanes yn cael gwireddu eu datblygiad. Rhaid gobeithio na fydd unrhyw newid plaid ar ôl yr etholiad yn golygu llai o ddiogelwch i’r clogwyni (hanner) gwyllt hyn.

 

 


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: