Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mawrth 15, 2012

Etholiadau Asturias

Mae Asturias (ac Andalucia) yng nghanol ymgyrch etholiadol. Bob dydd mae gweinidog dros rywbeth-neu’i-gilydd yn glanio yn Uviéu/Oviedo er mwyn dweud wrthym ni pa mor hapus fyddai pawb petai’r un blaid yn rheoli yma ag sydd yn Madrid – h.y. y PP (ceidwadol, am gadw undod Sbaen).

Dwi ddim mor ffôl ag i geisio rhagweld beth fydd y canlyniad: mae’r polau piniwn ynddynt eu hunain yn fregus yn fy marn i oherwydd y nifer fach sy’n cael eu holi, a hyd yn hyn maen nhw wedi awgrymu sawl posibilrwydd. Yr unig beth sy’n gyffredin rhyngddynt yw y bydd plaid Cascos, y FAC daleithiol, yn colli ac yn colli’r drwm. Bydd IU, y blaid chwith/gomiwnyddol/werdd, ar ei hennill. Ond p’un o’r ddwy blaid fawr, y PP a’r PSOE, fydd wrth y llyw – amhosib dweud.

Fel arfer, mae llawer os nad y rhan fwyaf o’r pethau sy’n poeni pawb yn fwy o gyfrifoldeb gwladwriaeth Sbaen na chymuned Asturias: ymestyn rhwydwaith yr AVE, y trên cyflym iawn, i Oviedo a Gijón; gorffen y draffordd ar hyd yr arfordir; sbarduno’r economi a chreu gwaith i’r ifainc. Mae’r ymwelwyr o wleidyddion wedi bod yn ddigon parod i ddweud ‘ie’ i bopeth, ond heb roi ffigyrau na dyddiadau.

Ar raddfa y llywodraeth fydd yn cael ei hethol, iawn, bu FAC heddiw yn addo datblygu astudiaethau Astwraidd yn y brifysgol, tra’r oedd y ddwy blaid fawr yn siarad geiriau gwagaidd am yr economi. Oni fyddai’n well iddyn nhw i gyd i ddechrau meddwl am y pethau y gellid eu gwneud yn awr – i gael y gyfundrefn ffyrdd/rheilffyrdd/trafnidiaeth gyhoeddus sydd gyda ni i gydweithio’n iawn, er enghraifft – neu i gyflogi’r ifainc i wneud gwaith angenrheidiol yn yr amgylchedd, gwaith sydd ar hyn o bryd ddim yn cael ei wneud o gwbl?

Advertisements

Responses

  1. Ond y cwestiwn mawr ydy, i pwy ti yn mynd i bleidleisio?

    • A’r cwestiwn mawr arall yw. a ydw’i’n mynd i gyhoeddi pa blaid gaiff fy mhleidlais!

  2. Dwi ddim yn meddwl dy fod yn PP nag yn IU, felly PSOE neu FAC.
    Nai fynd am FAC?

    • Fe allwn i fod yn ‘wyrdd’! – nid FAC beth bynnag, er eu bod nhw’n siarad llawer am hawliau Asturias, maen nhw’n gwneud hynny o safbwynt sydd weithiau i’r dde o’r PP, wethiau’n hofran rywle yn y canol. Diffyg ideoleg!

  3. Ydy Los Verdes yn sefyll yn ethoiadau rhanbarthol Asturias?

    • Sawl math ohonyn nhw! Un grŵp sydd ynghlwm wrth yr IU, un arall wrth Bloque Asturias, ac un arall sydd am ddiogelu anifeiliaid.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: