Fyddan nhw byth yn rhoi’r ffidil yn y to? Eleni eto, mae ffederasiwn helwyr Sbaen wedi gofyn i’r llywodraeth lacio’r rheolau a chaniatau hela anifeiliaid gwyllt ac adar o fewn parciau cenedlaethol a safleoedd amgylcheddol arbennig eraill. Mae rhywun yn gallu gweld pam: os wyt ti eisiau mynd mâs i ladd, hyfryd fyddai cael ei wneud e mewn man gwyllt a phrydferth yr olwg.
Mae’r rheolau cyfredol yn amrywio. O fewn Parc y Picos de Europa, e.e., mae’r ceirw, y geifrewig (Rupicapra rupicapra), y bleiddiaid a’r baeddiaid gwyllt yn ddiogel ar diroedd Asturias; ond os byddan nhw’n croesi’r ffin i León neu Cantábria byddan nhw’n wynebu helwyr cwbl cyfreithlon sydd wedi prynu diwrnodau o hela mewn ocsiwn. Mae’r arth frown o dan reolaeth wahanol: wedi ei roi ar restr anifeiliaid prin/mewn perygl, byddai unrhyw un oedd yn euog o ladd un yn cael ei ddirwyo’n ddirfawr.
Fe gafodd arthes frodorol olaf mynyddoedd y Pirineos ei lladd yn Ffrainc gan helwyr oedd yn honni eu bod yn mynd ar ôl bleiddiaid. Pwy sy’n credu na fyddai’r un math o beth yn digwydd fan hyn petai Parc y Picos ar agor i ddynion (dynion yw’r rhan fwyaf llethol) a’u drylliau?
Y ffaith yw bod digonedd o dir gwyllt mynyddig sydd eto heb ei ddiogelu, yn y rhan fwyaf o Sbaen ac yn sicr yn Asturias, lle bydd yr helwyr yn cael lladd bob dydd o’r tymor cyhyd â’u bod nhw wedi prynu trwydded. Cân nhw groeso gan ffermwyr a bugeiliaid, os nad gennym ni’r cerddwyr. Ond cyfoethogion ydyn nhw, yr helwyr sy’n dod o dramor, ac felly bydd y cwmniau sy’n trefnu’r teithiau wastad yn gallu sôn am ‘ddatblygu twristiaeth a chynyddu incwm’ yr ardaloedd gwledig. Does dim ond eisiau chwilio am ‘hunting in Spain’ i weld faint o ddewis sydd.
Well gen i beidio â chlywed ergydion, na siawnso dala un, wrth gerdded drwy’r Picos. Rhaid eu diogelu – eto.
Gadael Ymateb