Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mawrth 18, 2012

Atsain o’r Rhyfel Oer

Ym mis Ionawr 1966, roedd awyren B-52 o awyrlu UDA yn hedfan dros Sbaen a Môr y Canoldir ar ei ffordd i ffiniau Dwyrain Ewrop, oedd bryd hynny yn rhan o floc y Sofietiaid. Doedd hi ddim ar gennad bomio: mynd i ddangos ei hun, mynd i edrych, a dychwelyd dros yr Iwerydd. Ar daith mor hir, rhaid oedd llwytho mwy o danwydd tra yn yr awyr. Daeth yr awyren dancer o un o orsafoedd milwrol UDA yn Sbaen, ond methodd y ddwy awyren â chysylltu’n iawn, ac wedyn bwrw yn erbyn ei gilydd, ffrwydro, a phlymio i’r ddaear. Roedd y B-52 yn cario 4 bom hydrogen.

Dim ond pedwar o aelodau criwiau’r awyrennau a oroesodd y ddamwain. Cwympodd tri o’r bomiau ar dir Sbaen, yn agos i bentref Palomares, rhwng Almeria a Murcia. Taniwyd ffrwydron confensiynol dau ohonyn nhw, gan wasgaru deunydd niwcliar dros y caeau.  (Yn ôl beth wyf i wedi darllen, dyma fyddai canlyniad beth maen nhw’n galw heddiw yn ‘fom brwnt’.) Cafwyd y llall yn ddiniwed yn y môr, gyda chymorth pysgotwr lleol.

Roedd 2km sgwâr o dir wedi ei wenwyno – ac wrth gwrs roedd UDA eisiau gael ei fomiau’n nôl rhag i neb arall eu gweld nhw. Digwyddodd hyn i gyd yng nghanol unbeniaeth Franco, ond eto i gyd fe gododd gwrthdystiadau a) yn erbyn hedfan bomiau niwcliar uwchben tir Sbaen, a b) o blaid mwy o gymorth i’r tyddynwyr oedd wedi colli eu bywioliaeth. (Roedd hyn cyn dyddiau’r tai-gwydr enfawr o blastig a welir yn Almeria heddiw.)

Aethpwyd â thunelli o bridd ymbelydrol yn ôl i UDA i’w claddu, ac fe aeth Manuel Fraga, gweinidog yn llywodraeth Franco a fu farw’n ddiweddar, gyda llysgennad UDA, i nofio yn y bae i brofi bod popeth yn iawn. Ond mae dal i fod ymbelydredd uchel yn yr ardal: 8 mlynedd yn ôl, cafwyd hyd i ddwy ffos lle ‘roedd yr Americanwyr wedi claddu deunydd (pridd) ymbelydrol. Fe gytunodd UDA i dalu am lanhau’r cwbl – ond wedyn newidiodd eu meddwl.

A dyma ni lan at heddiw! Ar ôl teithio i Washington fe gyhoeddodd Gweinidog Tramor Sbaen y byddai’r pridd ymbelydrol sydd ar ôl i gyd yn cael ei glirio gan UDA. O na, daeth yr ateb, dydyn ni ddim wedi penderfynu eto beth i’w wneud.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: