Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mawrth 19, 2012

Gwersi Hanes

Heddiw mae cyfryngau Sbaen yn dangos yn eglur sut y mae pobl o farn gwleidyddol gwahanol iawn i gyd yn gallu gafael mewn digwyddiad hanesyddol bwysig er mwyn cyfiawnhau, a chefnogi, eu golwg nhw ar y byd. Mae’n ddaucanmlwyddiant cyfansoddiad cyntaf go iawn y Sbaen sy’n dal i fodoli heddiw, a gyhoeddwyd yn Cádiz ym 1812.

Nodyn hanesyddol i ddechrau: mae cyfansoddiad 1812 yn cael ei ystyried yn un rhyddfrydol yn ystyr C19eg y gair, gan anelu am gydraddoldeb o leiaf ar gyfer dynion y bourgeoisie, gyda’r canlyniad y byddai llai o bwer gan y brenin, yr arglwyddi, y fyddin a’r eglwys. Fe’i gytunwyd yn ystod blynyddoedd olaf Rhyfel y Penrhyn, pan oedd Napoleon ar ôl distrywio economi Sbaen wedi dechrau ei ymgyrch (hynod) aflwyddiannus yn Rwsia ac felly’n talu llai o sylw i’r penrhyn, a theulu brenhinol Sbaen o hyd yn Ffrainc. Roedd Cádiz yn ddinas fasnachol rhyddfrydol, a dyna hefyd oedd y rhan fwyaf o’r cynrychiolwyr a ddaeth i baratoi’r cyfansoddiad. Mae’n cael ei alw’n la Pepa, am ei fod wedi ei gyhoeddi ar ddydd gŵyl San Sioseff (Pepe ar lafar gwlad), a bod y gair constitución yn fenywaidd.

Nôl at heddiw: beth gawn ni ond y prif weinidog mewn seremoni yn Cádiz yn pregethu sut y mae’r Pepa yn ein dangos bod rhaid derbyn y newidadau (toriadau) y mae e’n eu gwneud yn ‘ddewr’, a’r brenin yn ategu bod modd cael ysbrydoliaeth yn hanes y Pepa i wynebu problemau heddiw. Mae papurau’r chwith yn gweld bwrgeiswyr Cadiz fel rhan o symudiad blaengar aeth ymlaen dros y ganrif a mwy wedi hynny, ac yn teimlo bod yr adain dde wedi dwyn eu digwyddiad nhw.

Ond rhaid cyfaddef nad oedd dewrion Cádiz erioed wedi meddwl y byddai gweithwyr! menywod! yn cael pleidleisio, undebau llafur yn bargeinio am amodau gwaith a chyflogau, plant pawb yn cael addysg na’r wladwriaeth yn trefnu honno a’r gyfundrefn iechyd. Doedden nhw ddim yn eu gweld eu cyfansoddiad fel rhan o symudiad, ond fel yr ateb i broblem. Ac fe gymrodd sbel hir iddo ddwyn ffrwyth. Ond o leiaf roedd e’n rhywbeth mawr, rhywbeth â gweledigaeth o fyd gwell (i fwy o bobol nag o’r blaen) ac o’r herwydd yn haeddu’i ddathlu. Mae gweithgareddau llywodraethau Ewrop heddiw yn edrych yn fwy tebyg i geisio cael y cyfrifon yn iawn tra bod y ffatri ar dân.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: