Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mawrth 20, 2012

Llygredd a Thwyll

Chwe blynedd o garchar i cyn-lywydd cymuned awtonomaidd Ynysoedd y Baleares. Heddiw fe gafwyd Jaume Matas yn euog o dwyll a llygredd mewn swydd cyhoeddus – y pedwerydd llywydd (o dair plaid wahanol) ers marwolaeth Franco i glywed y ddedfryd ‘euog’. Yn annifyr ar gyfer y newyddiadurwyr oedd yn gohebu’r achos, craidd y peth heddiw oedd perthynas Matas a newyddiadurwr adnabyddus o bapur El Mundo, boi uchel ei barch oedd yn ysgrifennu colofnau barn. Fe dalodd Matas bron i filiwn i Antonio Alemany, iddo gael ddechrau busnesau newydd yn y cyfryngau. Cyfraniad Alemany oedd clodfori Matas yn ei golofnau fel y byddai bardd o’r oesoedd canol wedi clodfori’i noddwr.

Ond drycha beth sy’n dod nesaf: daw bron i ugain o achosion eraill yn y gadwyn ‘Palma Arena’, fel mae’n cael ei galw yn y wasg Sbeinig, o flaen y llys. Maen nhw’n ymwneud â phob math o droseddau, o ddymchwel adeiladau heb drwydded hyd at gael contract gwaith i’w wraig oedd yn ei thalu €100,000 heb iddi orfod godi bys amdano. A’r un y mae pawb yn aros amdano yw achos Urdangarin: cyhuddir Matas o fod wedi cyflogi Sefydliad Noos, ie, cwmni di-elw dug Palma, mab-yng-nghyfraith brenin Sbaen i drefnu cynhadledd, as hynny heb roi cyfle i neb arall gynnig amdano.


Responses

  1. Rwy’n ymwybodol fy mod i heb sôn am achos llys llywodraeth awtonomaidd arall, Andalucia – Achos yr ERE. Fe ddaw!


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: