Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mawrth 21, 2012

Rhyddfrydwr o Ribadesella

Teimlo’n dwp y bore ‘ma ar ôl dysgu am y perthynas agos rhwng Cyfansoddiad cyntaf Sbaen a Ribadesella, y dref nesaf atom ni fan hyn.  Un dyn yw e, ond yn ddyn pwysig iawn.

Ganwyd Agustín Argüelles yn y dref, yn ardal L’Atalaya, ym 1776. Crwt deallus, ond yn wan ac yn aml yn glaf. Rywsut daeth i’w dŷ mynach o Ffrancwr, wedi ffoi rhag y Chwyldro yno. Cafodd loches, ac aeth ati i ddysgu ieithoedd – Lladin, Groeg, Ffrangeg, hyd yn oed peth Saesneg – i’r bachgen. Gwnaeth gystal, cafodd fynd i brisfysgol Oviedo i astudio athroniaeth, ac yn y pen draw cael swydd fel cyfieithydd yn y Weinyddiaeth Dramor yn Madrid. Wedyn fe’i ddanfonwyd ar gennad i Lundain, ac arhosodd yno ddwy flynedd yn astudio’r gyfundrefn wleidyddol a chyfreithiol.

Ym 1809, fe oedd ysgrifennydd y comisiwn oedd yn paratoi sesiwn nesaf y Cortes – Senedd –  y sesiwn fyddai’n penderfynu ar y cyfansoddiad newydd. Ac nid ysgrifennydd yn unig, ond ysgrifennydd gyda phleidlais, a llais ym mhob dadl. Oddi wrtho fe daeth calon y cyfansoddiad: y syniad bod sofraniaeth cenedl yn perthyn i’w senedd etholedig, ac nid i’r brenin. Roedd e hefyd yn un o’r rhai a ddadleuai dros foderneiddio’r llysoedd e.e. diddymu defnydd artaith fel ffordd o gwestiynu; a chael gwared â chaethwasiaeth yn nhiroedd Sbaen yn yr Amerig.

Ar ben hynny i gyd, fe gadwodd ymlaen i weithio fel gwas suful mewn sawl ffordd gydol ei oes. Ddaeth e fyth yn gyfoethog, ond mae e’n rhywun sy’n haeddu ei gofio.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: